Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XXIII
DIWEDD DYCHRYNLLYD

Gwyddai Robinson am bob modfedd o'r Cyfer Du, ac er nad oedd yn hollol ddieithr i Twm Deigr, nid oedd Twm hanner mor gyfarwydd ag ef, ag ydoedd â'r cyferi eraill. Ynghanol y cyfer yr oedd hi'n dywyll fel y fagddu, ond gwaith hawdd oedd canlyn twrw'r cipar ac yntau'n cythru fel yr ydoedd. Yn ei ddychryn, ni feddyliodd Robinson am aros ac ymguddio a cheisio troi ei erlidiwr oddi ar eu drywydd[1] felly, ond daliai i redeg yn ei flaen, er mynych daro yn erbyn coeden, a baglu ar draws brigau a mieri.

Dyna, hefyd, oedd hanes Twm, ac ychwanegai hynny at ei gynddaredd, ond yr oedd yn benderfynol o ddal y cipar, deued a ddelai.

"Roedd y llymgi[2] am roi cortyn am 'y ngwddw i," meddai wrtho'i hun, "oedd, ar f'en'd i, ac ella b'asa fo wedi llwyddo hefyd, a chen' inna' record ddrwg yn barod."

(Buasai Twm yn y carchar am ddeuddeng mis, oherwydd ymosod ohono ar gipar a phlisman, a'u maeddu'n enbyd, ryw ddwy flynedd cyn hynny).

Methai'n lân â deall sut na chlywai dwrw Roberts yn dyfod ar ei ôl. "Mi ddyla'n dal ni yn y coed 'ma, a chynno fynta'<ref>Fynta': yntau.<ref> lamp a phopeth," meddai.

Os clywai Twm dwrw Robinson, clywai Robinson yntau, dwrw Twm, ac yr oedd wedi deall hefyd mai un oedd yn ei ganlyn, a meddyliai mai'r Teigr ydoedd yr un hwnnw, gan nad oedd ganddo olau. Daliai i redeg o hyd, er bod ei ddillad wedi eu rhwygo, a'i gorff yn gleisiau, a'i wyneb yn gwaedu gan amryw gripiadau; ond dal i'w ganlyn yr oedd ei erlidiwr o hyd.

  1. Trywydd: scent.
  2. Llymgi: cur.