Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mmm

PENNOD I
COFIO GWEITHRED DDEWR

"That poor woman is still standing in the corridor," meddai Sister Rocherfort, y Royal Infirmary, wrth Nyrs Davies, "they will be out of the theatre any minute now, and it will only upset her to see him. You speak Welsh Davies, go to her please, and try to get her away. Quick-here they come.'

Ac ar hynny, a chyn i'r nyrs brin gyrraedd y wraig, dyma ddrws yn agor, a nyrs arall â masg gwyn yn cuddio'i hwyneb i gyd bron, yn gwthio cerbyd bychan allan, ac yn troi, gan gychwyn yn gyflym hyd y corridor heibio tua'r ward. Safodd Nyrs Davies rhwng y wraig a'r cerbyd, gan afael amdani, fel na welai'r ffurf lonydd a orweddai arno, dan y blanced.

Gyda hynny, dyna feddyg mewn côt wen laes yn dilyn, ac atynt. "Wel, Mrs. Ifans," meddai yn siriol, "mae'r operesion wedi bod yn llwyddiant perffaith. Rhowch ryw fis i Jac yma eto, a mi fydd yn barod i ddwad adre atoch chi, wedi mendio'n iawn."

Ac am y tro cyntaf yn ystod ei holl dreialon, torrodd Mrs. Ifans y Fron i lawr yn lân.

Druan ohoni! Aethai drwy amser pryderus iawn yn ystod y misoedd oedd wedi pasio er y diwrnod prudd hwnnw y cawsai Jac ei gornio gan y tarw wrth achub Grasi Jôs, Cae'r Glaw. Ond er bod pawb arall bron yn amheus iawn, yr oedd hi wedi credu gair y meddyg Q