gyfr'odd[1] o nhw; [2]. wir 'doeddwn inna' ddim yn meddwl 'u bod nhw'n bum cant, ond mi 'rydw'i wedi gweithio'n ddigon caled amdany' nhw, a chef'is i'r un ddimai ohony' nhw ar ôl neb 'chwaith—heblaw y tipyn adawodd 'y nhad druan imi.'
Ar hynny gwthiodd y gadair yn ôl, ac wedi mynd at y ffenestr, i edrych bod y gorchudd yn cyrraedd gwaelod y ffrâm, cododd y mat oddi ar y llawr o flaen y tân, symudodd y ffender, a chododd yr oelcloth—a darn mawr o bapur llwyd oedd odano, a dyna lle y gorweddai nifer o sofrenni ar eu hwynebau. Dechreuodd eu symud a'u cyfrif, a chlywid eu tinc ar y teils wrth iddi wneuthur hynny "ugain, un ar hugain, dwy ar hugain. "Dwy bunt ar hugain," meddai. "Wel, y d'wrnod y daw o adre, mi ro'i ddeg yn bresant iddo fo."
Yna gosododd hwy'n ôl drachefn, â'r papur llwyd a'r oelcloth drostynt, ac wedi taenu'r mat, tynnodd y gadair ymlaen, ac eisteddodd drachefn i synfyfyrio, ac ail ddechrau siarad â hi ei hun wedyn "Doctor f'asa fo'n lecio[3] bod, medda' fo wrth i fam, pan oedd hi yno'n edrach[4] amdano fo dd'waetha', ond, chwedl hithau—mae hynny allan o'r cwestiwn—a ffarmio mor sâl. Wel, mi gaiff fynd yn ddoctor—waeth iddo fo gael yr arian cyn i mi farw ddim—ran hynny mi fydd hynny'n well iddo fo, ac ella[5] y ca' inna' fyw i weld o wedi pasio. 'Wir, mae hi'n hwyrach nag oeddwn i'n feddwl, ac mi' rydw' i'n mynd yn gysglyd o flaen y tân 'ma. Cwpanaid o lefrith poeth gymera i i swper heno, efo'r hen annwyd 'ma."
I ddisgwyl i'r llefrith dwymno, rhoes Grasi Jôs ei phriciau dechrau tân yn y popty, a glo'r bore—tipyn o gnapiau bychain—yn y bwced ar y ffender wrth law.
"Mae'n resyn gadael y tân gwresog 'ma hefyd," meddai,—"ond llosgi wnaiff o 'tawn[6] 'i efo fo—a llosgi