Prawfddarllenwyd y dudalen hon
wnaiff o 'tawn i ddim; well imi beidio â thynnu'r cnapiau 'ma sy' wedi dechrau llosgi, ne' mi lenwith y lle 'ma efo mwg;" a chododd yr aspan, a'i gosod hi ar y ffender, rhag ofn i wreichion saethu o'r tân i'r llawr. Diffoddodd y golau, ac aeth i'r siambr, a thynnu ei dillad a myned i'w gwely yn y tywyllwch, yn ôl ei harfer, heb ddychmygu am foment beth oedd o dan y gwely.