PENNOD II
YR YSBEILIWR
"Dim ond cael a chael wnes i i gyrraedd mewn pryd," ebe gŵr talgryf,[1]. â masg du yn cuddio ei wyneb, oedd newydd ddyfod yn ddistaw bach dros y giât i'r llwybr a arweiniai o'r ffordd fawr at Gae'r Glaw, "mae hi'n syperu'n gynt nag arfer. Be' di'r[2] mater tybed? Ond mae'n rhaid i mi 'i mentro hi heno beth bynnag. 'Fedra'i ddim fforddio aros dim rhagor." Yna llithrodd yn llechwraidd ac yn gyflym at ddrws y tŷ gan ei agor, a'i gau, yn ddistaw, ac wedi cael i mewn i'r tŷ, gwnaeth yr un peth â drws y siambr,[3] ac ymwthiodd o dan y gwely.
Gwyddai am arferion Grasi Jôs i gyd, gan iddo fod yn ei gwylio am nosweithiau. Gwyddai hefyd fod gan-ddi rai cannoedd o arian, ac mai yn y tŷ y cadwai hwynt, ond yr oedd un peth pwysig nas gwyddai, a dyna oedd hwnnw, ei bod ychydig ddyddiau cyn hynny, wedi mynd â hwy i'r banc, a hynny am y tro cyntaf yn ei hoes.
Clywsai Grasi yn siarad â hi ei hun, ond ni ddeallai bob gair a ddywedai, eithr deallodd un ymadrodd a barodd gryn anesmwythid[4] iddo-a "Rees y Banc" oedd hwnnw. "Wyddwn i 'rioed fod yr hen lwynoges yn delio efo Rees," meddai; eithr ymdawelodd pan glybu dinc y sofrenni wrth iddi eu symud, ond rhoes ei galon dro, pan beidiodd â chyfrif wedi cyrraedd "dwy bunt ar hugain." "Tybed," meddai, "fod yr hen wrach[5] wedi mynd â'r bylc i'r banc? Y Nefoedd Fawr! a finna' wedi mentro cymaint, os na cha'i ddeugant cyn diwedd yr wythnos nesa', mi ffeindith y ffyrm y mod i wedi twyllo."