Ni fynnwn, er dim, roi i lawr yma lw dychrynedig Grasi Jôs, ond mewn dau eiliad yr oedd y lleidr wedi neidio ar ei draed, a chythru iddi, a hithau yn gweiddi "mwrdwr!" dros y lle, ac yn ymladd am ei heinioes, gan gicio a chripio a sgrechian; ond er ei holl ymdrechion—nid oedd ond plentyn bach megis yng nghrafangau[1] haearn ei hymosodwr.
"Cau dy geg ne' mi fyddi yn uffern," sïodd[2] llais llofruddiog yn ei chlust, a theimlai Grasi Jôs fysedd a bawd yn ymgladdu yn ei gwddf, ac yn cau am ei phibell wynt, gan ei thagu'n lân, a suddodd ar ei chefn ar y gwely, yn swp lliprynnaidd[3] diymadferth.
"Rhaid imi beidio â'i thagu," ebe'r lleidr wrtho'i hun, gan lacio'i afael yn ei gwddf, a rhoi'r llaw arall ar ei genau. "Os gweiddi di," meddai, gan ddieithrio'i[4] lais, 'mi fydd y gyllell 'ma yn dy galon di."
Ond ni ddywedodd Grasi Jôs air, a gwthiodd yntau gadach i'w cheg.
Yr oedd y ci yn cyfarth yn ddychrynllyd, byth er pan glywsai floedd ei feistres, a'r twrw'n y siambr. "Diolch i bod hi'n chwythu ne' mi f'asa'r bwystfil ci 'na yn deffro'r holl wlad," ebe'r lleidr wrtho'i hun, gan droi Grasi ar ei hochr yn y gwely. Wrth wneuthur hynny, canfu fod ei hosanau am ei thraed, a rhwymodd ei dwylo ag un ohonynt, a rhoes y llall am ei cheg i ddal y cadach, a'i glymu y tu ôl i'w phen. Yna rhwymodd ei choesau yn dyn â chadach.
"Yr oeddwn i'n meddwl," meddai wrtho'i hun, "fod mwy o galon yn Grasi na hyn, mi ddechy Nefoedd Fawr! Tybed? A rhoes ei law yn bryderus ar ei bron; ond yr oedd calon Grasi Jôs yn curo yn gryf ddigon.
"Brenin Mawr!" meddai, "mi feddyli's am foment 'i bod hi wedi marw."