Yn y tywyllwch, gwnaeth dipyn o dwrw wrth agor drws y siambr i fyned i'r gegin, a gyrrodd hynny'r ci yn gynddeiriog. "Mi f'asa'n dda gin'i fedru gwneud yr un peth efo chdi ag a wnes i efo dy feistres di," ebe'r lleidr, "ond o ran hynny pe 'tasa rhywun yn 'i glywed o, ac yn dwad yma, 'fasa fo'n gweld dim o'i le. Wel, rŵan am 'y nghyflog." Ac aeth yn syth at y lle tân.
Yr oedd tân coch yn y grât o hyd, a thaflai lewych ar lawr y gegin. Cododd y lleidr y mat a'r oelcloth, oblegid nid yn ofer y buasai'n gwylio Grasi am nosweithiau, ac nid oedd hithau wedi bod mor ofalus i dynnu gorchudd y ffenestr i'r gwaelod isaf, bob nos, ag y buasai'r noswaith hon. Gwelodd y ddwy bunt ar hugain, a heliodd hwy at ei gilydd, a'u rhoi'n ei boced. "Wel," meddai, "mi wn i lle mae'r gweddill hefyd," a rowliodd ddarn mawr o'r oelcloth, a thynnu dwy deilsen o ganol y llawr, a gwthio'i law i'r twll, ac wedi codi caead tun oedd ynddo, rhoes ei law i mewn ynddo—a'r foment y gwnaeth hynny, aeth yn oer drosto, oblegid nid oedd yn y tun ddim ond papur a llyfr.
"Duw a'm helpo i!" meddai, "wedi fy holl gynllunio, ond-"
Ar hynny torrwyd ar ei ymson[1] gan sŵn dyrnod drom ar y drws, a safodd fel delw. "Mae hi ar ben arna' i, meddai. "Pwy? Na—y cythra'l ci 'na sydd wedi torri'n rhydd. Be' 'na i rwan?"
Peidiodd y curo a'r crafu ar y drws yn sydyn—ond ni pheidiodd y cyfarth, a'r foment nesaf yr oedd Carlo'n y ffenestr. Symudodd yntau, gan wneud tipyn o dwrw, a rhedodd y ci dan gyfarth yn ddychrynllyd yn ei ôl, ac at y drws.
Yn ei ddychryn, gan na wyddai yn iawn beth oedd yn ei wneud, rhoes y bocs yn ei ôl—a'r oelcloth—a'r mat, a safodd yn hurt. "Mi llarpith[2] fi os caiff o afael yna 'i,