Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd llawer o enghreifftiau o bethau cyffelyb yn digwydd i hen bobl, meddai'r meddyg, a thybid yn lled gyffredinol, fod pobl ar fin cael strôc, yn teimlo'n oer ac yn closio at y tân. Yr oedd hefyd wedi cleisio[1] tipyn ar ei gwddf, ond nid oedd dim a wnelai hynny ag achos ei marw, wedi cael rhyw anhap iddo 'roedd rywsut, a dyna'r paham yr oedd wedi rhwymo hosan amdano.

Felly marwolaeth o achosion naturiol a fu'r dyfarniad, oblegid er siom fawr i rai o'r theithwyr ac er gollyngdod mawr i Jones, gwnaeth tystiolaeth y doctor lawer cwestiwn fwriadwyd ei ofyn, yn gwbl ddi-anghenraid,[2] er i amryw eu gofyn wrth fyned adre.

"Doeddwn i'n credu dim ar esboniad yr hen ddoctor 'na," ebe'r teiliwr, "nid teimlo'n oer y bydd pobl cyn cael strôc, ond cael rhybudd y bydda' nhw—i gweld hi'n dwad—ac yn 'u dychryn yn codi i geisio dianc oddi ar 'i ffordd hi, ac yn syrthio ar 'u gwyneba".

Teimlai Jones, fodd bynnag, yn rhyfeddol o galon ysgafn, er ei holl anawsterau ariannol.

"Wel, diolch," meddai, "fod y busnes yna drosodd. 'Fedr neb 'y nghyhuddo i o fod yn llofrudd beth bynnag, ond 'anghofia' i mo heno, 'tawn i'n byw i oed Methusaleh—na wna' ar f'engoch i, yn enwedig un peth—'wyddwn i ddim y byddai'n rhaid imi fynd i weld y corff—ond wel'is i mo'no fo chwaith o ran hynny, 'drychis i ddim. Brenin Mawr! 'doeddwn i ddim ond yn disgwyl bob eiliad i chlywed hi'n codi, ac yn dechra' damio ac yn ordro pawb allan, a mi 'roedd arna' i ofn y b'asa mwy o ôl 'y mysedd i ar i gwddw hi, a finna' wedi gwasgu mor galed, ond mi'r oedd 'i gwddw hi mor denau a sgragiog,[3] ac eto mae'n rhaid bod 'na dipyn o ôl hefyd—go dda'r hen ddoctor yn meddwl mai Grasi oedd wedi rhoi'i hosan am 'i gwddw 'i hun. Mi gafodd 'i 'neud

  1. ↑ Cleisio: to bruise.
  2. ↑ Dianghenraid: unnecessary.
  3. ↑ Sgragiog: scraggy.