PENNOD VI
DIWEDD CARLO A'I FEISTRES
Er nad oedd ei ddewrach na i ffyrnicach yn y byd, nid oedd Grasi Jôs yn ddigon ffôl i gymryd ei lladd, ond ar ei gwaethaf, a sylweddolodd ar unwaith mai ei hunig obaith i osgoi hynny oedd ufuddhau i'r dyn cryf a mileinig[1] a afaelai ynddi, oblegid credodd yn sicr, pan ddywedodd wrthi am gau ei cheg neu y byddai yn uffern -ei fod yn golygu pob gair. Felly distawodd, a rhoes gorau i ymladd ag ef, ac ymostyngodd i gymryd ei throi ar ei hochr a'i rhwymo, a gorweddodd mor llonydd ag y medrai, nes iddi glywed griddfan torcalonnus Carlo, ond ni fedrai ddal hynny-"Chaiff o ddim lladd Carlo,' meddai wrthi ei hun, "na chaiff, ar f'end inna',"[2] a dechreuodd ymdrechu i'w rhyddhau ei hun, gan ymwingo[3] ac ymnyddu[4] , a throi a throsi, a chordeddu[5] a bustachu,[6] â'i thraed dros ochr y gwely, nes bod ei hwyneb yn du-lasu gan ei hymdrechion, a'r gwythiennau yn sefyll allan fel cortynnau ar ei thalcen, a'i gwaed yn curo fel gordd[7] yn ei phen. "Cawn i'r hen beth 'ma o 'ngheg," meddai, "rydw i'n colli 'ngwynt yn lân fel hyn," a suddodd yn swp ar lawr. Dychmygodd ei bod yn clywed twrw'r giât yn clepian, a gwnaeth un ymdrech fawr wedyn, gan roi plwc ar un fraich,-a chafodd hi'n rhydd. Mewn moment tynnodd yr hosan a ddaliai y cadach yn ei cheg i lawr, ac yna'r clwt o'i cheg, ac ymlusgodd at y drws, ac wedi gweled nad oedd Carlo yno, cloes ef, a suddodd i'r llawr drachefn, wedi glân ddiffygio.