Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan gafodd ei hanadl, ymlusgodd ymlaen at y tân, ac o drôr y bwrdd estynnodd y gyllell fara, a thorri y rhwymyn oddi ar ei choesau, a'i daflu i'r tân, gyda llw.

Symudodd y ffender, a dechreuodd godi'r oelcloth, gan deimlo am y sofrenni; heliodd ei llaw hyd wyneb y llawr, a deallodd eu bod wedi eu dwyn. Yn y sioc o ganfod eu colli, sythodd yn sydyn, cododd ei llaw at ei phen, a rhoes ryw hanner llam ymlaen, a disgynnodd, gan daro ochr ei thalcen yn y pentan poeth.

Y foment y teimlodd Carlo'r procer poeth yn serio'i[1] wddf—yn ei loes ingol,[2] troes a rhuthrodd ar ei ben i'w gwt, allan oddi yno drachefn, yn ddall gan boen, i'r ardd, ar draws y llwyni ac yn erbyn y coed a thrwy'r gwrych, ac i'r lôn—a throsodd drachefn—ac ar draws y caeau, dros waliau a chloddiau, a thrwy wrychoedd ac i goed y Plas, ond cyn gynted byth ag y cyrhaeddodd yno, aeth ei droed i drap, ac yno y bu mewn poen annirnadwy, rhwng y llosgfeydd a dannedd y trap, tan wyth o'r gloch y bore, pan glywodd Robinson ef yn cyfarth, wrth iddo ffidio'r ffesynt. "Mae 'na ryw hen gi wedi mynd i un o'r trapiau, Jim," meddai wrth ei is-gipar, "gorffan di ffidio—a mi â inna' i setlo'i dynged o.'

Er nad adwaenai Carlo Robinson, meddyliodd y ci druan mai dyfod i'w ryddhau yr ydoedd, a pheidiodd â chyfarth y foment y daeth y cipar i'r golwg; ac yn ei lawenydd, er gwaethaf ei boen, dechreuodd ysgwyd ei gynffon a gwneud sŵn isel, balch.

"Ho!" ebe Robinson, "ci'r hen Grasi—ai 'e? Felly wir! Wel, dyma gyfle imi dalu tipyn o 'nyled i dy feistres, 'y ngwas i. Mi fydd gofyn iddi hi grwydro'n o bell i gael hyd i ti, yn y lle'r ydw' i'n mynd i dy yrru di."

Ar hynny cododd ei wn, a thaniodd—"A dyna un arall eto," meddai, "mi 'rwyt ti'n werth dwy getrisen."[3] A thaniodd eilwaith.

  1. Serio: to sear.
  2. Ingol: agonizing.
  3. Cetrisen: cartridge.