Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plisman yr ochr arall, a rhoi ei law yn drwm ar ei ysgwydd—"Henry Jones, mae gen' i warant—Ond dyna'r cwbl a glywodd Jones cyn disgyn mewn llewyg i'r llawr.

"Jones druan," ebe Roberts, "mae'n rhaid i fod o'n teimlo'n ofnadwy—hen foi clên ydi o—drwg ar 'i les 'i hun efall—Ar hynny agorodd Jones ei lygad, a rhyfeddai weled yr olwg hanner tosturiol oedd ar plisman. "Peidiwch ag ymollwng fel hyn Jones," meddai, "rhaid i ni wneud ein dyletswydd wyddoch;" ac aeth ymlaen i ddarllen y warant.

Y ffyrm hadau y trafeiliai Jones drosti oedd wedi darganfod y celcio[1] a'r twyllo.

"O! diolch," ebe Jones, oblegid meddyliasai'n sicr mai ynglŷn â helynt Grasi Jôs yr oedd yn cael ei gymryd i'r ddalfa.

Edrychodd y plismyn ar ei gilydd mewn penbleth, ac ar amrantiad sylweddolodd Jones ei fod wedi gwneud camgymeriad.

"O! diolch," meddai wedyn, "'i bod hi wedi dwad o'r diwedd; mae hyn wedi bod fel cledda' wrth 'y mhen i ers wythnosau.'

Ymhell cyn y nos, yr oedd helynt cymryd Jones i'r ddalfa wedi llwyr ddisodli[2] trychineb Grasi Jôs ym meddyliau ac ymddiddanion trigolion Llanystyn, ac er i Jones gael dedfryd drom am dwyllo, teimlai hi'n ysgafn fel pluen wrth ei boen a'i bryder yn ystod y dyddiau y bu Grasi Jôs yn gorff yn y tŷ.

  1. Celcio: to embezzle.
  2. Disodli: to supplant.