rywbeth am gael ych cyfle chi, hogia'," meddai Dic fwy nag unwaith wrthynt, "ond dyma fi'n bedair ar bymtheg oed, a mae hi'n rhy hwyr rŵan, hyd yn oed petai 'nhad yn medru fforddio rhoi ysgol i mi." Ond er cymaint dylanwad Dic ar y ddau, ni fedrodd lwyddo. "R'osa' i ddim yno ddim ond am flwyddyn," ebe Twm.
"Na finna' chwaith," meddai Huw. A buont yn un â'u gair hefyd, ac aeth Twm adre i ffarmio.
"Mi gei ditha', Huw," ebe'i dad wrtho—er siom aruthr iddo—"fynd i'r môr.' Ac felly bu. Aeth ei dad ag ef am fordaith o naw mis, ond canfu ymhell cyn dychwelyd, nad oedd diferyn o ddŵr hallt yn ei waed, ac fel dyn call gadawodd iddo fyned at ei fodryb i ddysgu ffarmio, ac .ni chafodd le i edifarhau chwaith, oblegid ymdaflodd Huw i'r gwaith gyda sêl a brwdfrydedd mawr.
Felly hefyd Twm, ac am y tair blynedd nesaf bu'r tri chyfaill wrthi'n ddiwyd yn eu gwahanol gylchoedd. Aeth Twm a Huw am gwrs byr mewn amaethyddiaeth i Goleg Bangor, a phasiodd Jac i adran feddygol un o brifysgolion Lloegr.
Blynyddoedd tawel a fu'r rhain, ac er y byddai'r tri gyda'i gilydd gryn lawer, fel y gellir yn hawdd gredu, nid cymaint â chynt, gan fod Jac mor brysur gyda'i wersi, a Thwm yn byw yn Llanfriog, dros dair milltir i ffwrdd. Eto byddai Huw a Thwm yn gweled cryn lawer ar ei gilydd, mewn marchnad a ffair a phreimin.[1] Yn y gaeaf ymwelent â'i gilydd gryn lawer hefyd, a'u hoff adegau i wneuthur hynny fyddai nosweithiau lleuad, gan mai hyd y llwybrau a arweiniai ar draws y caeau yr aent fel rheol. Ac nid bod llai o ffordd o Lanystyn i Lanfriog ar draws y caeau na hyd y lôn oedd y prif reswm am hynny ychwaith, ond am y caent dipyn o ddifyrrwch wrth fyned â'u cŵn gyda hwy.
- ↑ Preimin: Agricultural show.