Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dyma nhw," meddai Twm, wedi iddynt gael drosodd i'r ffordd, "mi 'cudd'is i nhw yn fan 'ma.'

"Fyddai'n well inni chwibanu ar Gel?" gofynnodd Huw; "ddeil o byth mo'r sgwarnog." A rhoes chwibaniad hir.

"Wn i ddim, wir," meddai Twm, "yn ôl fel yr oedd o'n closio ati hi wedi iddo fo'n pasio ni, mi ddyla' fod wedi cael tro arni erbyn hyn; ond gwell iti beidio â chwibanu llawer; 'wyddost ti ddim pwy—taw! Beth oedd 'na, dywed? Dyma fo Gel, yn dwad; ' chafodd o mo na nid y fo ydi o. Huw, dyma'r hen gipar 'na. Tyrd oddi wrth y cwningod 'ma. Brysia, dyma Robinson yn dwad. Mi gymerwn ni arnom ein bod ni'n 'madael oddi wrth ein gilydd." Yna gan godi ei lais, meddai gan gychwyn i ffwrdd—"Mi ddo'i acw nos Sadwrn : nos dawch Twm." Atebodd Huw yntau; ond erbyn hyn. yr oedd y cipar yn eu hymyl, ac meddai :

"Wel, fechgyn, mi wela' fod y ci 'ma wedi bod yn hela? 'Chlyw'is i ddim ci yn cyfarth fel 'tasa' fo mewn poen rwan jest? 'Chlywsoch chitha' mo'no fo?"

"Do," meddent hwythau.

"Yn lle?" gofynnodd y cipar.

"O! yn rhywle ffor 'ma," atebasant.

"Nid un ohonoch chi glyw'is i'n chwibanu?" gofynnodd y cipar wedyn. "Chwibanu ar hwn o hela, 'roeddech chi?”

"Nid yn yr Ysgol Sul yr yda' ni,[1] Robinson," ebe Twm, gan gychwyn yn ei flaen. "Nos dawch, Huw.'

"Paid â threio bod yn witty, 'machgen i," ebe'r cipar, 'dydi o ddim yn dy siwtio di. Tyda 'ni ddim mor ddall nad yda' ni'n gw'bod i be byddwch chi'n dwad â'ch cŵn efo chi, ac mi wyddom ni be' di'ch gêm chi hefyd."

Ond y foment honno, beth welent yn dyfod tuag atynt,. ag un o'r cwningod a guddiasai Twm yn ei geg, ond

  1. Yda ni, ydym ni.