yn torri i Huw lamu fel march wedi ei sbarduno,[1] a dechreuodd redeg fel dyn gwallgof.
Ond rhwng y cyfer a'r cae nesaf, yr oedd weiyr pigog, yn bedair rhes, a chafodd Huw, ar ei waethaf, dipyn o amser i feddwl wrth ddringo drostynt.
"Dyn Llanŵion," meddai wrtho'i hun.
Y dyddiau hynny yr oedd sôn mawr yn y papurau am ryw ddyn o Lanŵion oedd wedi dianc o seilam[2] y dre'.
"Ie, y fo ydi o hefyd," meddai wedi cael trosodd, dan ailgychwyn rhedeg; ond yn raddol dechreuodd sylweddoli'r sefyllfa, ac wrth wneud hynny, heb yn wybod iddo'i hun, arafai. Aeth i deimlo'n anesmwyth iawn. "Mi ddylwn fynd i dd'eud wrth rywun," ymresymai ynddo'i hun, "ac eto os gwna' i, mi fydd cwest arno fo'n siwr, a mi fydd yn rhaid i minna' roi'r holl fanylion, a dweud faint o'r gloch oedd hi. Beth feddylith pobl ohona' i yn y fan yma rhwng hanner nos ac un o'r gloch y bore? A mi ofynnan' imi sut y gwyddwn i 'i fod o wedi marw pan wel'is i o gynta', a ddaru mi dreio'i gael o o'r afon. Ac eto, be' 'tasa rhywun yn gweled ôl y nhraed i'n disgyn yn y coed, a'r plisman yn mynd i chwilio a chael allan mai fi fuo 'na? Y Nefoedd Fawr!--ella' ma' Robinson ydi o,—seiwedi mynd ar ôl Gel, ac yn 'y nisgwyl i? Yr oedd ogla' diod arno fo; ella mai fo sydd wedi syrthio i'r afon. Be' tasa nhw'n d'eud mai fi boddodd o, ne' bod o wedi syrthio i'r afon wrth inni orffen y ffeit? Be' 'na i? Ella nad ydi o ddim wedi boddi ran hynny—pwy bynnag ydi o.
Fel hyn yr ymresymai Huw, a'i gamau yn mynd yn arafach, arafach o hyd. O'r diwedd stopiodd, ac aeth drwy ymdrech meddwl ofnadwy. Ofnai fynd adre, a gadael i'r dyn yno, ac yntau efallai yn fyw; ni châi lonydd byth gan ei gydwybod, pe gwnâi hynny. O'r ochr arall, saethai iasau o arswyd drwyddo wrth feddwl am droi'n ôl.