PENNOD X
STORI DIC
Drannoeth, pwy gerddodd at dŷ modryb Huw, ond Dic Cae Bach.
"Diolch iti am fenthyg dy feic, Huw," meddai. "'roedd hi'n hwyr iawn arnat ti'n dwad adre' neithiwr. 'Does gen' ti ddim lle i gadw dy sgwarnogod yn y tŷ, dywed?"
"Dic! Y cena! y chdi fuo 'ma, ai e? Y chdi roes y pry' mawr[1] yn sownd wrth y glicied? Lle gwel'ist ti Gel, Dic?"
"Wel, os doi di acw heno mi gei'r hanes," ebe Dic. "Rydw' i am fynd â'r beic adre rŵan imi gael 'i lanhau o iti; tyrd dithau i' nol o heno, ac i nôl hanes y sgwarnog yr un ffordd."
"Ella bydd gin' i stori well na hi, Dic," ebe Huw, 'mi gef'is i sioc fy oes neithiwr, 'machgen i, a 'fydd 'y nghalon i byth yn iawn eto.'
"Taw, Huw," ebe Dic mewn syndod. "Be' ddigwyddodd iti, dywed?"
"Dos di â'r beic 'na adre, Dic, a glanha fo, wedyn mi gei ditha' ddyfalu[2] drwy'r dydd, fel finna'."
"Da iawn," ebe Dic, dan chwerthin. "Eitha' tâl i mi, Huw. So long rŵan.'
"Mi gei di fy stori i gynta'," ebe Dic y noson honno, wrth y tân yng Nghae Bach. A dyma grynhoad ohoni.
Yr oedd Dic wedi benthyca beic Huw i fynd i weled chwarae drama mewn ardal rhyw chwe milltir o Lanystyn, ac yr oedd y ffordd yno yn arwain drwy Lanfriog, a phan oedd Dic ar ei ffordd adre, wedi cyrraedd pedair croeslon Lanfriog, ac yn cychwyn am Llanystyn, clywodd