Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe'i cafodd Dic ei hun yn rhydd o'r giât heb fawr o drafferth, er iddo gleisio tipyn ar ei goesau, a chythrodd i'r ysgyfarnog a'r beic a'r darn cloch, a chychwyn marchogaeth i fyny'r allt syth am ei hoedl. Nid oedd Robinson a'r plismyn yn cysgu chwaith. "Rhywun wedi methu cadw'r tro yng ngwaelod yr allt," meddai Cwnstabl Hughes, y Dre, "ac wedi cael codwm, a brifo efallai."

"Na," ebe Robinson, "mae o'n cychwyn eto—y blwmin' potsiar 'na yr oeddwn i'n deud amdano wrth Evans 'ma rŵan, ydi' o. Ar 'i ôl o, lads."

Yr oedd gan blisman Llanfriog feisicl ei hun, ac aeth ar ei gefn, ond yr oedd yr allt bron â bod yn ormod i Dic, heb sôn am y plisman casol[1], a dylai Dic fod yn ddiolchgar iawn am y braster a fagasai'r plisman; ond nid enillai gymaint â hynny arno, chwaith.

Erbyn iddo gyrraedd pen yr allt yr oedd yn foddfa o chwys, ond yr oedd y gwaetha' drosodd, a chanddo bellach lôn wastad. Buasai'r ysgyfarnog yn gryn rwystr iddo, hefyd, gan ei bod gymaint â chi go dda; ond y peth a'i gwnâi yn anhwylus iddo, oedd gorfod gafael ynddi ag un llaw; felly tynnodd ei gyllell o'i boced, a rhoes hac yn ei chlun, a gwthio'r goes arall drwyddi, a'i rhoi i hongian ar gorn chwith y beisicl, a gafael yn hwnnw, oblegid gwnâi pwysau'r ysgyfarnog hi'n anodd iddo gadw'i gytbwysedd[2] heb hynny. Dan farchogaeth, â'r llaw arall, dechreuodd fotymu ei rencot, ac ar hynny teimlodd blwc egr, a'r peth nesaf a wybu oedd ei fod ef a'r beic a'r ysgyfarnog yn bentwr ar y lôn.

Aethai godre ei gôt i spôcs olwyn ôl y beisicl, ac fel y cyflymai Dic, tynnwyd hi i'r fforch, a thynnwyd Dic hefyd yn wysg ei gefn oddi ar y sêt. Cafodd gryn drafferth i ymryddhau hefyd, ac nid heb rwygo peth ar ei gôt, y llwyddodd ychwaith, a chollodd dipyn o amser yn

  1. Casol: fat.
  2. Cydbwysedd: balance.