Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hel y pethau a wasgaresid yn y godwm—yr ysgyfarnog, a'r lamp a'r pwmp, ac erbyn codi'r beic, canfu fod y llyw wedi camu. "Diolch," meddai, "nad oes dim byd gwaeth na hyn wedi digwydd; 'fydda'i fawr o dro â gwastatu'r llyw 'ma." Yna gosododd yr olwyn flaen rhwng ei goesau, ac wrth wneud hynny, wynebai ben yr allt y daethai i fyny hyd-ddi, ac fel y troai'r cyrn i'w hunioni, gwelai ym mhen yr allt, ffurf dyn, ac wrth graffu, gwelai'r ffurf yn codi ac yn gostwng, a chlywai dwrw curo deirgwaith neu bedair, ac ar unwaith cythrodd Dic i'r ysgyfarnog, neidiodd ar ei feisicl, a dechrau padlio â'i holl egni, oblegid deallodd Dic ar unwaith ystyr y codi a'r gostwng a'r curo: rhywun mewn oed, neu rywun trwm yn mowntio beic o'r tu ôl, ag un troed ar y stepan. "Siwr iawn," meddai, "ond 'toes gan blisman Llanfriog feic, ac fel 'na y bydd o'n mynd ar 'i gefn o hefyd; mae o fel carlwm ar ôl cwningen.' Ymhen ychydig byddai wrth groeslon Llanystyn, a byddai'n rhaid iddo droi ar y dde i fyned adre, oblegid i'r Dre yr elai wrth gadw ar ei union. Beth wnâi? Os troai, fe'i canlynai'r cipar ef, oblegid â hithau mor olau, a'r ffordd tua Llanystyn yn union am gryn filltir, byddai'r plisman wrth y groeslon yn ddigon buan i fedru ei weled ar y ffordd, a byddai hynny yn ddigon, hyd yn oed onis daliai ef, i ddweud wrth y plisman mai un o Lanystyn ydoedd. Meddyliodd unwaith am fynd ar ei union, ac i'r Dre, ond ofnai wedyn gyfarfod rhywun a'i hadwaenai—neu y sarjant—ac yntau heb olau. Meddyliodd drachefn am daflu'r ysgyfarnog dros y clawdd wrth basio gwinllan goed, a gadael i'r plisman ei ddal os dymunai, ond rhoes y syniad hwnnw heibio fel un hollol annheilwng. Heblaw hynny, sylweddolodd pe gwnâi hynny y byddai ganddo ormod o bethau i'w hegluro, ar wahan i'r posibilrwydd iddynt gael hyd i'r ysgyfarnog. "Wel, mae hi'n mynd yn gyfyng arna' i," ebe Dic, "ond yr ydw' i wedi cael tipyn o flaen arno fo bellach. Hylo! Be' 'di'r rhain?"