Richard Ifans. Fel bu'r digwydd, pan gyrhaeddodd, yr oedd y stiward newydd orffen adrodd stori Robinson wrth Syr Huw.
Gofynnodd Richard Ifans a gâi weld Syr Huw yn breifat, a chwynodd wrtho na chai funud o lonydd gan y stiward na Robinson. "Ma' nhw'n deud, Syr Huw, 'y mod i a'r hogyn acw'n potsio, ac yr oedd Robinson yn brolio[1] yn y Bedol neithiwr 'i fod o wedi'n dal ni, a hynny'n gelwydd i gyd. Ac mi wyddoch yn iawn, Syr Huw, y byddwch chi bob amser yn saethu mwy o gêm ar dir Cae Bach nag yn unman, a mae o'n beth ofnadwy fod yn rhaid i mi ddioddef peth fel hyn. Cwningod a sguthanod a llygod mawr ydi'r unig betha' fydda' i'n ddifa. 'Wnewch chi un gymwynas â mi, Syr Huw? Ddowch chi acw heno i chi gael gweld rhywbeth—rhywbeth na welsoch chi 'rioed o'r blaen mo'no fo, rhywbeth a rydd daw ar y stiward a'r cipar am byth?"
Yr oedd apêl Richard Ifans mor erfyniol, fel yr addawodd Syr Huw fyned, a'r noson honno gwelid y gŵr bonheddig mewn gryn chwilfrydedd[2] yn prysuro tua Chae Bach.
Yr oedd Dic a'i dad yn ei ddisgwyl wrth y giât, ac yng ngolau lantern aethant at gwt yr ieir. Cododd y tyddynnwr ei lantern, ac yn ei golau, er ei syndod syfrdanol, [3]gwelai Syr Huw, geiliog ffesant braf ar glwyd. "Mae 'na ddau neu dri ohony' nhw, Syr Huw," ebe Richard Ifans, "ac efo'r ieir 'ma y bydda nhw'n licio bod, a phetaech chi yma'n y boreuau mi gaech 'u gweld nhw'n b'yta efo nhw."
Drannoeth gwysiwyd[4] Robinson i wyddfod ei feistr, a chafodd amser pur anhapus. Yn wir, cafodd bopeth ond sac, ac nid oedd o un diben i'r cipar awgrymu nad