Prawfddarllenwyd y dudalen hon
oedd y ffesynt efo'r ieir, yn ddim ond mantell i guddio'r potsio.
Ond trosedd mwyaf Robinson yng ngolwg Syr Huw, oedd dweud yr hanes yn y Bedol, ac yr oedd cysgod y trosedd hwnnw ar bopeth a ddywedai'r cipar.
Yn naturiol iawn, yr oedd Robinson yn wallgof, a gwnaeth lŵ y mynnai ddal Dic a'i dad, pe cymerai flynyddoedd iddo; a phan welodd Richard Ifans, dywedodd hynny wrtho, a gwnaeth gamgymeriad mawr, oblegid yr oedd Richard Ifans yn ddigon call i gymryd rhybudd, ac i dreblu ei ochelgarwch.