Taflodd Dic olwg frysiog dros ei ysgwydd, fel petai'n bwriadu dianc, ond yr oedd y cipar ifanc wedi ei osod ei hun ar ei lwybr; a'r foment y troes Dic i edrych yn ôl, neidiodd Robinson ymlaen, ac ag un plwc agorodd ei gôt, a syrthiodd ceiliog ffesant braf[1] ar lawr wrth ei draed.
Chwarddodd Robinson "Ha! Ha!" fawr dros y lle, ac meddai: "Rwyt ti'n mynd yn ffeindiach wrthy' nhw bob dydd, Dic. Rhoi lodging iddy' nhw yn y cwt ieir yr oeddit ti pan nol'ist ti Syr Huw acw i gweld nhw yn'u gwlâu, ond 'rwy ti wedi mynd i' cario nhw yn dy frest yrwan,—i roi ditan iddy' nhw, mae'n debyg. Wel 'tydi dy laeth di ddim yn dygymod efo hwn, beth bynnag. Dyma'r noson ora' gef'is i 'rioed. 'Does gen' ti ddim i' dd'eud, y 'sglodyn, a chditha' mor barod dy dafod? Y clyfar 'i hun! Ha! Ha!" Ac am unwaith yr oedd Dic yn fud.
Safai yn wargrwm,[2] â'i ên ar ei frest, yn bictiwr perffaith o ddigalondid.
"Dywed rywbeth, y penci!" ebe'r cipar. "Wyt ti wedi llyncu dy dafod?"
"Tydi o ddim diben imi dd'eud dim, Robinson, choeliwch i mo'na ni," ebe Dic.
"Nag ydi," meddai'r cipar, "dydi o ddim. Ond y babi bach! Mae o jest â chrïo. Y peth bach diniwed!"
"Mistar Robinson—dechreuodd Dic.
"Mistar Robinson," gwatwarai'r cipar. "Wir, Jim, os 'rhoswn ni dipyn, mi fyddaf yn Lord Robinson!"
Yna daeth rhyw gasineb dychrynllyd i dôn y cipar, ac meddai: "Yldi, Dic Ifas, 'tasa ti a dy dad ar ych glinia' 'mlaen i yn gweddïo am bardwn, 'chaech chi mo'no fo—ie'r, cyw llyfant, petasa' dy fam yn codi o'i bedd i ofyn, 'rown i ddim pardwn iti; mi chwerthwn[3] yn ych gwyneba' chi'ch tri.'