Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIII
O FLAEN EI WELL

Bu'r ddrama'n llwyddiant mawr, ac ni chlywodd Dic air ynghylch y noson cynt gan neb.

Ym mhen rhyw ddeuddydd neu dri, daeth Roberts y plisman â'r wŷs[1] i Gae Bach, a chyn y nos yr oedd pawb yn yr ardal yn gwybod bod Dic Cae Bach wedi ei ddal yn potsio, a bod ei achos yn dyfod o flaen yr ustusiaid yn llys y Dre' yr wythnos wedyn. Fel pob stori o'r fath, wrth ei thaenu, âi'n fwy—ac yn fwy gwahanol iddi ei hun bob dydd. Dywedid bod Dic wedi ei ddal yng Nghoed y Plas yn yr act o losgi fflowar brwmstan o dan flawydden lle clwydai peth wmbreth o ffesynt, a'u bod yn disgyn fel afalau wrth ei draed, a'i fod, pan ddaeth y ciperiaid ar ei draws, wedi rhoi tro yng nghorn gwddw gryn ddwsin ohonynt.

Rhwng noson y ddrama a dydd y prawf, ychydig iawn a welodd Dic; a phan aeth Huw i edrych amdano, ymddangosai yn ddigalon iawn.

"Oes gen' ti dwrnai, Dic?" gofynnodd Huw.

"Nac oes," atebodd yntau.

"Wel," meddai Huw, "gofala am gael un, a chofia mai Bob Jenkins fydd o; os medr rhywun dy gael di'n rhydd, fo fedr. A gwrando Dic, os nad oes gen' ti bres i dalu iddo fo, mi helpith Twm a finna' di, a mi 'rydw'i wedi gyrru at Jac i Lerpwl i dd'eud yr hanes, a mi wyddost y rhôi Jac 'i geiniog ola' iti."

Troes Dic ei ben draw, pan glywodd hyn, ac meddai, heb edrych ar Huw: "Diolch i chi, hogia' 'run fath, ond mae gen' i ddigon i hynny." Yna, gan droi ato, meddai: "Huw, mi f'aswn i'n licio i Twm a thitha' fod yn y Dre' yn y llys. Ddowch chi?"

  1. Gwŷs: summons.