"Raid iti ddim gofyn, 'y ngwas bach i," ebe Huw. Yr oedd ystafell yr ustusiaid yn orlawn, oblegid cymerid diddordeb mawr yn yr achos. Wedi mynd trwy'r seremoniau arferol, adroddodd Robinson yr holl hanes, gan ganolbwyntio ar y ffaith ddarfod iddo ddal Dic, â'r fesant ganddo, ac ategwyd ei dystiolaeth gan yr is-gipar. Yna galwyd ar Dic, ac er syndod a siom i Huw a Thwm a'i holl gyfeillion, ni chyflogasai dwrnai. Estynnai pawb ei ben ymlaen.
"Beth sy' gennych chwi i'w ddweud?" gofynnodd cadeirydd y fainc.
"Hyn, syr," atebodd Dic yn gwrtais, "y buasai'r holl firi 'ma wedi'i osgoi pe buasai Huw Robinson wedi fy nghoelio i, neu'n wir, wedi roi siawns imi dd'eud fy stori; ond fel y gall James Williams ddweud, pan ofynn'is i iddo fo wrando arna' i, chwerthin am 'y mhen i wnaeth o, a d'eud na choelia' fo mo'na i, beth bynnag dd'wedwn i.'
"Dyma'r hanes, syr. Yr oeddwn i wedi bod mewn practis drama y noson honno, ac yn y ddrama, mae 'isio ceiliog ffesant, a fi oedd i ofalu am un, ac yn y Dre, yn siop Morgan, yr oeddwn i wedi prynu'r un ddwynodd Huw Robinson oddi arna' i, a'r un bryn'is i yn 'i le fo, diwrnod y ddrama, o ran hynny."
Ond cyn i Dic ddweud dim rhagor, torrodd rhywrai allan i chwerthin; dechreuodd rhai eraill guro'u dwylo, ac aeth yn ferw drwy'r lle i gyd. Curai'r cadeirydd ei bensel yn y ddesg; gwaeddai'r sarjiant, "silence!" ond cyn y cafwyd ef, bu'n rhaid bygwth clirio'r llys. Yna aeth Dic ymlaen i ddweud bod Mr. Morgan ei hun yno yn y llys yn barod i dystio'i fod yn dweud y gwir.
Yr oedd golwg enbyd ar Robinson; aeth ei wyneb yn goch ddu, a chrynai fel deilen, ac ofnai rhai o'i gwmpas bob munud ei weled yn cael ergyd o'r parlys.