PENNOD XIV
BRWYDR DYDD DIOLCHGARWCH
Dydd Diolchgarwch ydoedd, ac ar eu ffordd i wasanaeth y bore, gwelai Dic a'i dad fod paratoadau ar gyfer saethu wedi eu gwneud. Gwelent y rhai a osodid ar gyrion y cyferi coed i rwystro'r adar fyned dros y terfynau, ac i farcio'r lle syrthiai'r rhai a glwyfid, ond na fyddent wedi eu lladd.
Byddai Syr Huw yn trefnu saethu yn Llanystyn bob dydd Diolchgarwch, ac âi Robinson a'r is-gipar hyd yr ardal i chwilio am gurwyr.[1] Byddai'n demtasiwn fawr i dlodion Ymneilltuol yr ardal dderbyn y cynnig, oblegid caent bum swllt am y diwrnod, a phryd o fara a chaws, a chwrw, un o'r gloch, yn ysgubor rhyw ffarm, tra byddai'r boneddigion yn bwyta'n y tŷ ac yn cael mygyn a saib bach. Ildiai amryw, hefyd, i'r demtasiwn, ond o blith eglwyswyr, ac o'r Dre, y câi Syr Huw'r rhan fwyaf o'i gurwyr Ddydd Diolchgarwch.
Gellid tybio yr anghymeradwyid gwaith Syr Huw yn trefnu ei "saethu mawr" y diwrnod hwnnw, ond, rywfodd, ni wneid. Tenantiaid Syr Huw oedd y rhan fwyaf o Ymneilltuwyr[2] yr ardal, ac nid oeddynt yn awyddus iawn i dynnu'r meistr tir yn eu pennau. Yr oedd eraill, mae lle i ofni, mor wasaidd a chynffonllyd fel na freuddwydient am brotestio.
Yr oedd un amaethwr, fodd bynnag, â'i ffarm yn ymyl y capel, a deimlai i'r byw. Nid oedd John Edwards yn flaenor, a dywedid na châi byth fynd ychwaith, am ei fod yn rhy blaen,[3] ond yr oedd yn grefyddwr onest, a chasâi rith a rhagrith â chas cyfiawn. Buasai ef gyda'r stiward, yn gofyn iddo fyned at Syr Huw i geisio ganddo beidio