Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â saethu Ddydd Diolchgarwch, ond dywedodd y stiward wrtho'n chwyrn am feindio'i fusnes ei hun, a myned allan o'r swyddfa. Ond yr oedd John Edwards yn ddyn penderfynol, ac aeth yn syth at Syr Huw ei hun.

"Ond," meddai Syr Huw, "rydw' i wedi bod yn diolch am y cynhaea' yn yr eglwys, a roesoch chi ddim gorau i weithio'r diwrnod hwnnw, a mae'n arw o beth imi golli dau ddiwrnod, a ch'itha' ddim ond un."

"Ie, Syr Huw, mi wn i y byddwch chi'n mynd i'r gwasanaeth Saesneg ddiwrnod Diolchgarwch yr Eglwys, ond yr ydach chi'n temtio pobl dlawd y capel efo'ch corona'[1] i ddyfod i guro i chwi.'

"Fedra' i mo'u gorfodi nhw i ddwad," ebe Syr Huw, 'a phetasa' nhw yn teimlo cymaint â hynny dros y capel, f'asa' nhw ddim yn dwad."

"Y peth fydd yn 'y mrifo i, syr, fydd clywed twrw tanio mawr tra bydd pobl wrthi'n gweddïo."

"Mi ddylent weddio yn well a diolch mwy, John Edwards," meddai Syr Huw, dan chwerthin, "wrth glywed y gynna', a gwybod bod y ffesynt yn cael eu lladd; lleia'n y byd o ffesynt fydd 'na, mwya'n y byd o gynhaea' fydd 'na'r flwyddyn nesa'."

Fodd bynnag, addawodd Syr Huw na byddai iddynt saethu yn ymyl y capel yn ystod y gwasanaeth. Ond fel bu'r digwydd, nid oedd Syr Huw gyda'r saethwyr y diwrnod hwnnw, a gwaeth na hynny, dan ofal mab Syr Huw yr oedd y parti saethu. Bachgen wedi ei ddifetha gan ei fam ydoedd y mab, creadur llysnafaidd,[2] ffroen-uchel,[3] a snobyn o'r iawn ryw. Clywsai am ymweliad John Edwards, ac yr oedd yn gynddeiriog pan ddeallodd am yr addewid a roesid, a chafodd Syr Huw amser annifyr iawn gydag ef a'i fam; aethant eu dau i'w ben, a bu yn bur boeth rhyngddynt.

  1. Coron: five shillings.
  2. Llysnafaidd: disdainful.
  3. Ffroenuchel: haughty.