Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"O'r Tad!" ebe'r ffarmwr, "fydd gin' i ddim gwrthwynebiad o gwbl i dy daro di, llanc;" a gwthiodd freichiau'r ffrind o'r neilltu fel pe na baent ond gwiail; ac mewn moment yr oedd y gŵr bonheddig ieuanc yn eistedd yn y rwdins ac yn plygu 'mlaen, a'i wedd yn welw wyrdd, a'i lygad pwl[1] yn llonydd, a'i enau yn cau ac yn agor—fel pysgodyn ar dir sych.

"Arna' chi 'roedd y—

Ond cyn i John Edwards orffen, aeth yn nos dywyll arno, oblegid daethai Robinson yn lladradaidd o'i ôl, ac â bagl ei ffon, trawodd ef dipyn uwch na'i wegil[2], a disgynnodd John Edwards yn glwt yn ymyl y ddau arall.

Erbyn hyn yr oedd cyfarfod y bore drosodd, a'r gynulleidfa'n dechrau dyfod allan, a buan iawn y deallwyd beth a ddigwyddasai; ac wrth gwrs, dyna fu testun siarad pawb drwy'r dydd. Er gwaethaf y ddyrnod a gafodd John Edwards gan y cipar, daeth ato'i hun yn y man, a chafodd fynd o'r cae heb ragor o helynt. Arhosodd gartre'r prynhawn, ond mynnodd gael mynd i gyfarfod y nos. Ni ofynnwyd iddo gymryd rhan, fodd bynnag; a dyna'r Cyfarfod Diolchgarwch cyntaf i basio ers llawer blwyddyn, heb i John Edwards gael ei alw ymlaen. Yn wir, gofynnwyd i'r brawd a ddechreuasai gyfarfod y bore, gymryd rhan wedyn yn olaf yng nghyfarfod y nos, gan eu bod yn fyr o un i gadw'r tri chyfarfod.

Aeth John Edwards o'r capel, â'i deimladau'n gymysglyd iawn. Rhwng popeth, yr oedd yn bur ddigalon,—ansicrwydd ynghylch canlyniadau helynt y bore, a gweled cilwg[3] ar wynebau rhai, ac eraill yn cadw draw oddi wrtho fel petaent yn ei osgoi, ac uwchlaw dim, ei anwybyddu gan Mr. Hughes, Parc Mawr, sef y blaenor a lywyddai y mis hwnnw, ac a alwai'r gweddïwyr ymlaen i gymryd rhan.

  1. Pwl: dull.
  2. Gwegil: nape of the neck.
  3. Cilwg: frown.