Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beilliaid.[1] Do, myn cebyst ti. Biti na fas—Be' sy' 'na, Roy?" A chododd y cipar ar ei draed yn sydyn, oblegid aethai'r ci yn anesmwyth iawn, a safai â'i glustiau i fyny. Gwrandawodd y cipar yn galed, ac am funud ni chlywai ddim; ond gyda hynny dyma dwrw rhywbeth yn rhedeg dros y dail crin, a chythrodd Roy oddi wrth y cipar tua'r twrw. Cododd Robinson ei botel yn frysiog a th'rawodd hi ym mhoced ei gesail, a chychwynnodd yn ddistaw ac yn ochelgar tua'r twrw. Yr oedd yn ŵr rhy brofiadol o lawer i ruthro a gwneud twrw, ac felly roi rhybudd i bwy neu i beth bynnag oedd yno, ei fod yn dyfod. Wrth fynd, clywai dwrw ysgwyd a mwstro, ac mewn munud, gyfarthiadau poenus ci, a phrysurodd, ond gyda hynny dyma Roy i'w gyfarfod, â'i gynffon yn ei afl, dan gwynfan yn wylofus.

Yr oedd Syr Huw yn ei le. Fe fyddai gofyn gwylio noson y "saethu mawr," a'r noson hon, buasai potsiar gyda'i gi yn chwilio am adar clwyfedig y cylch; ac yr oedd wedi bod yn dra lwcus hefyd, oblegid eisoes cawsai bedair ffesant, ond yr oedd ei gi yn cael peth trafferth gyda'r bumed, ac yn gorfod rhedeg gryn dipyn ar ei hôl.

"Wel," meddai'r potsiar wrtho'i hun, "mi gaf bris llawn am honna, beth bynnag; mae'n rhaid nad oes dim ond 'i haden hi wedi'i saethu, ne' f'asa hi byth yn medru mynd mor dda. "Tydi'r rhain ddim wedi'i chael hi mor arw, ond dyma un â thipyn o ôl haels arni hi—wedi'i saethu yn o ddrwg. Peth rhyfedd na f'asa un o'r stoppers wedi dwad am rai ohony' nhw. Pwy oedd y stopper yn fan 'ma, tybed. Ond o ran hynny 'ella bod—Brenin Mawr! Be sy' rŵan?"

Y peth a barodd ebychiad a chwestiwn y potsiar, oedd clywed cyfarth poenus ci; ond cyn iddo gael amser i wneud dim, dyma'i gi o ato, â'r ceiliog ffesant brafia' 'rioed yn ei geg.

Cythrodd i'r ceiliog, a dechrau

  1. Peilliaid: fine flour