Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhwymo'i wddf wrth yddfau'r lleill, a gwrando yn astud dan wneud hynny. Yr oedd y ci am fynd i chwilio am aderyn arall, ond rhwystrodd y potsiar ef, a da iawn oedd iddo fod wedi gwneud hynny, oblegid daethai Robinson i'w ymyl mor ddistaw, fel y buasai wedi ei gyrraedd heb iddo'i glywed, onibai i'r ci ddechrau chwyrnu: a chyda hynny dyma'r cipar i'r golwg; ond yr oedd y potsiar eisoes wedi cychwyn rhedeg, gan alw'n isel ond yn bendant iawn ar ei gi ei ddilyn, gan yr ofnai iddo droi'n ôl a chwffio gyda chi'r cipar, oblegid fe fuasai hynny'n ddigon i Robinson ei adnabod ef, gan yr adwaenai'r cipar bob ci'n gymdogaeth bron.

Ond ni buasai raid i'r potsiar bryderu rhyw lawer am hynny, gan na ddangosai ci'r cipar awydd o gwbl am adael sawdl ei feistr, er i Robinson ei annos, drwy deg a thrwy drais.

Rhedai'r potsiar fel milgi, ac yr oedd gofyn iddo hefyd, oblegid yr oedd y cipar yn sionc iawn. Methai Robinson â deall paham na throesai'r potsiar drwy adwy ar y dde, i gyfeiriad y ffordd fawr, yn lle dal i redeg yn ei flaen, a hynny yn union i gyfeiriad tŷ Jim, yr is-gipar.

"Dyma felltith o dro," ebe Robinson wrtho'i hun, "na f'asa Jim hyd y fan 'ma heno."

Ond aethai Jim yng ngherbyd Cyrnol Westburn, y gwrbonheddig yr oedd Syr Huw i fynd ato'i saethu drannoeth, i fod yno yn barod erbyn y bore.

Gwelai Robinson mai'n syth at "Borth yr Afon" yr anelai'r potsiar (gelwid yr adwy honno yn "Borth yr Afon" am fod afon fechan yn rhedeg gyda wal yr adwy rhyw lathen yr ochr arall iddi), ac fel y dynesai at yr adwy, sylweddolodd Robinson, er mawr lawenydd iddo'i hun, fod y potsiar yn graddol arafu, a'i fod yntau yn prysur glosio ato.

"Diaist inna'! mae o'n dechra' blino," meddai, gan ddyblu ei ymdrechion. Ond pan oedd o fewn ychydig