Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dan Lenni'r Nos.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tŷ fel hyn, a mi f'aswn inna' wedi cael mwy o flaen arno fo 'blaw 'mod i am golli'r ffesynt wrth redeg." "Dic," ebe'i dad, "'y ngwas i, waeth iti roi gorau iddi rŵan ddim."

"Mae'n haws deud na g'neud, y nhad," meddai Dic. "Mi 'roeddwn i wedi penderfynu rhoi gorau iddi hi hefyd, ond 'fedra' i byth fadda' i Robis am beth ddeudodd o am mam, ac i boeni o, yn fwy na dim arall, yr ydw i'n dal ati, a heddiw mi gododd miri John Edwards y cythraul yna i—a mi gorffennodd sgwrs amser swper hi.

"Ie," ebe'i dad, "ond rho gorau iddi bellach; mi 'rwyt ti wedi hen dalu dy ddyled i Robis, a mi 'rydw' inna'n poeni, Dic. Y fi sy' wedi dy wneud di'n botsiar, a phetasa' ti'n cael dy ddal, 'faddeuwn—

"Peidiwch â phoeni am hynny heno, 'nhad; ne' bore 'ma ddylwn i dd'eud. Mae'n debyg bod Robis wedi mynd. Mae'r hen Bero wedi dwad yn ôl, beth bynnag.'

"Gad iddo fo allan tan y bore, Dic. Paid ag agor iddo fo. Mi fydd yn iawn ar y mat wrth y drws.'

"Pa'm 'nhad? Mi ŵyr Robis yn iawn y b'asa'r cyfarth yn yn[1] deffro ni, ar wahan i fod o'n gw'bod mai newydd ddwad i'r tŷ yr ydw i."

"Na, gad iddo fo, Dic," ebe'i dad, "ella' bydd Robis hyd y fan 'ma eto; mae o'n ddigon gwallgo i wneud unrhyw beth, os ydi o'n siwr mai chdi oedd y potsiar. 'Chaiff o ddim dwad yn agos at y tŷ os bydd Pero allan."

"Ar y fan [2]inna'! 'rhen father. Rhaid imi dynnu 'nghap i chi bob tro. Mae gynnoch chi gymaint deirgwaith yn y pen yna ag sy' gen' i yn f'un i. Wel i'r cianel â fi rŵan, 'nhad, tan chwech, a 'rwystrith Robis mon'a i gysgu chwaith.'

Yr oedd gan y cipar allwedd drws cegin gefn y Plas yn ei feddiant ei hun, a chan y byddai allan ar adegau bob awr o'r nos, byddai'n galw yno am rywbeth neu'i gilydd

  1. Yn yn—yn ein.
  2. Hyd y fan: about.