"Wel, mi 'rwyt ti'n mynd i gael codiad yn dy gyflog o ddau swllt yr wythnos o'r adeg y ganwyd o. Ond paid ti â deud wrth neb. Tydi hyd yn oed y stiward ddim yn gw'bod; mi f'asa' fo'n grwgnach, fel y gwyddost ti. Ond mi es[1] i at Syr Huw fy hun i ddeud y dylet ti gael codi dy gyflog. Paid â son wrth Syr Huw chwaith; fydd o ddim yn lecio fuss; ond o ran hynny, anaml y byddi di'n i weld o. Mi ddweda'i wrtho dy fod ti'n diolch iddo fo, a dy fod ti'n dallt nad oes arno fo ddim 'isio i'r stiward w'bod."
Teimlai Robinson yn weddol ddiogel, er mai o'i boced ef yr oedd y ddau swllt i ddyfod, gan mai rhoi cyflog Jim i Robinson dalu iddo, y byddai'r stiward. "Mi awn ni i ddathlu dy lwc di i'r Bedol heno. Am dê rŵan, ac i'r Bedol heno erbyn chwech, cofia!"
"Mae Jim yn gwybod gormod," meddai Robinson, wrth fynd adre, â'i feddwl yn gythryblus iawn, "a 'cha'i byth lonydd rŵan; a dyna fi wedi dechra' talu blacmel; wedi gwneud hynny ohonof fy hun hefyd, ond 'wna'i mo hynny yn hir, na 'wna' ar f'engoch i. Mi 'rydw'i wedi arfer efo anawsterau, ac os na fedra'i setlio Jim Willia's, mi 'rydw' i'n haeddu fy saethu. Wel, Jim, mi 'rwyt wedi dangos dy gilddannedd,[2] 'wyddwn i ddim fod gin' ti rai o'r blaen, mi f'asa'n well i mi 'tasa' gin' ti'r un, ac ella b'asa'n well i titha 'hefyd, ond mi wn i hyn, beth bynnag, mi f'asa'n well i ti 'tasa' ti heb 'u dangos nhw, 'machgen i."
Yr oedd Robinson yn y Bedol erbyn chwech, ac er ei syndod, ni chyrhaeddodd Jim tan tua hanner awr wedi; ac nid ymddangosai mor llon a hwyliog[3] ag y disgwyliai Robinson.
Er mai creadur tawedog [4]oedd Jim oddi cartre', yr oedd ymhell o fod felly ar ei aelwyd ei hun, a dywedai bopeth wrth ei briod, ac ychydig a feddyliai Robinson ei bod hithau'n gwybod cymaint bron â Jim, a bod yr