is-gipar wedi adrodd hanes y prynhawn wrthi, air am air.
"Fedra'i mo'i ddeall o, Jim," ebe'i briod, wedi iddo orffen ei stori, "ond gwylia fo, a gofala na wnei di ddim byd i gael sac. Mae'n biti dy fod ti wedi deud dim wrtho fo heddiw; mi f'asa'n well iti fod wedi aros tipyn.'
"Ella, wir," meddai Jim, "ond eto, ella na f'aswn i ddim wedi cael y ddau swllt codiad heblaw 'y mod wedi deud. Ella b'asa' Robinson yn 'u cadw nhw 'i hun, er i Syr Huw 'u rhoi nhw, achos fydd y "gŵr mawr" yn deud dim wrtha' i bron—wrth Robinson, fel pen cipar y bydd o'n siarad y cwbl bron, ond mae o wedi rhoi deuswllt o godiad i mi beth bynnag."
"Ie, os ydi o hefyd," meddai ei wraig.
"Os ydi o? Be' wyt ti'n feddwl, Mary?" gofynnodd Jim, mewn penbleth.
Dim, Jim," ebe hithau, "ond bydd yn ofalus, a phaid â gwario gormod yn y Bedol. Dos rŵan.'
Os araf y gweithiai meddwl Jim, daliai ati'n ddygn,[1] ac ar ei ffordd i'r Bedol, ac wedi cyrraedd yno, ni lwyr ollyngodd ei afael yn y mater.
"Rwyt ti'n ddistaw iawn heno, Jim," meddai Robinson, unwaith neu ddwy; ond yn fuan yr oedd y pen cipar mewn sgwrs â rhywrai eraill, ac anghofiodd Jim a'i fudandod, ac ni wnaeth fwy na nodio arno pan ddywedodd Jim, "nos dawch," wrth fynd allan.
- ↑ Dygn: persevering.