"Dim cancr o beryg', y machgen i," atebodd Robinson. "Dawn i ddim led 'y 'nhroed i glywed rhyw sothach[1] fel 'na.'
Pan gyrhaeddodd Robinson y Bedol, llyncai pawb ei ddiod yn gyflym a myned allan.
"Be' di'r brys sy' ar bawb heno?" gofynnodd i Mrs. Davies, y dafarnwraig.
"O! mynd i'r ddrama mae pawb, 'mwyn Tad," ebe hithau yn wawdus. "Yn 'toes[2] ar bobl 'isio rhywbeth i 'neud?"
Yn fuan iawn, nid oedd neb wedi ei adael yn y Bedol ond Robinson a dau Sais, a gwelodd y cipar yn bur fuan nad oedd ar y rheini fawr o eisiau ei gwmni ef, ac yr oedd Mrs. Davies hithau yn brysur gyda rhyw gyfrifon. Toc, blinodd ar ei gwmni ei hun, a chododd i fynd allan.
"Rydach chi'n mynd yn gynnar iawn heno, Robinson," meddai Mrs. Davies. "Ydach ch'itha hefyd am fynd i'r ddrama?"
Atebodd Robinson ar ei "Beth Mawr"[3] o, nad oedd. "Rydw' i am fynd am dro bach, a mi ddo' i'n f'ôl, toc.
Gellid saethu ar hyd stryd y pentre. Nid oedd neb i'w weld yn unman, a cherddodd y cipar yn araf i gyfeiriad y Neuadd. Yn y man, clywai dwrw chwerthin mawr a churo dwylo, ac meddai wrtho'i hun: "mae'r ffyliaid yn meddwl 'u bod nhw'n cael hwyl." Ond daliai i gerdded ymlaen, serch hynny. Yr oedd y neuadd dan ei sang,[4] a'r rhai a dderbyniai'r arian wrth y drws, erbyn hyn, wedi gadael eu gwaith, ac ar flaenau eu traed yn ceisio gweld rhwng pennau'r rhai a safai yn y drws, rhwng y cyntedd a'r ystafell.
Fel y dynesai Robinson, torrodd chwerthin mwy nag o gwbl allan, ac ymwthiodd y cipar i mewn, nes medru gweled y llwyfan.