Tudalen:Dau faled gan John Jones (Jac Glan-y-gors).pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y SESSIWN YNG NGHYMRU.

—————————————

A FUOCH chwi erioed mewn Sessiwn yng Nghymru,
Lle mae cyfraith ac ieithoedd yn cael eu cymmysgu?
Rhai'n siarad Cymraeg, a'r lleill yn rhai Seisnig,
A hwythau'r Cyfreithwyr yn chwareu'r ffon ddwybig.
With their fal de ral lal, &c

Bu yno'n ddiweddar ryw helynt ar dreial,
A'r Ustus ar ddodwy wrth ddywedyd y ddadal;
Gast i Gadwalad' o Ben-ucha'r Nant,
Giniawodd ar Oen i Sion Ty'n-y-pant.
Fal de ral, &c.

Ond Sion aeth i gyfraith trwy lawer o boen,
I wneyd i Gadwalad' roi tâl am yr oen;
A Chouns'lor o Lundain, gan godi ei glôs,
A gododd i fyny, to open the Cause.
Fal de ral, &c.

"Gentlemen of the Jury;

"Cadwallader's Dog of Pen-ucha'r-Nant,
Kill'd a fat Lamb of Sion Ty'n-y-Pant;
We claim in this Court, without a dispute,
Value of the Lamb, and all costs of suit."
Fal de ral, &c.

Atebai rhyw Gymro, "Mae'n hysbys i mi,
Nad ydyw Cadwalad' yn cadw'r un Ci:"
A'r Counsellor a dd'wedai, "Pray, don't be in haste,
"If he don't keep a Ci, he does keep a Gast,"
Fal de ral, &c.

A'r Jury ddywedent, "Gwybod 'rym ni,
Na welwyd yn un lle erioed Ast yo Gi;
Ni ellwch yng Nghymru, gyda'ch cyfraith a'ch Saesneg,
Alw caseg yn geffyl, na cheffyl yn gaseg."
Fal de ral, &c.

Ond Sion Robert Rowland o Ben-ucha'r-Dre',
Ddaeth yno i gyfieithu pob gair yn ei le;
Ar ol sychu ei drwyn, i gael edrych yn drefnus,
Fe waeddodd am osteg i ddysgu'r hen Ustus.
Fal de ral, &c.