Tudalen:Dau faled gan John Jones (Jac Glan-y-gors).pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DIC SION DAFYDD.

——————

Gwrandewch ar Hanes Dic Shon Dafydd,
Mab Hafotty'r Mynydd mawr;
A'i daid yn d'wedyd bod ei wreiddyn
O Hil gethin Albion Gawr.

Ni wyddai Dic fawr am lyth'renau,
Na'r modd i ddarllen llyfrau llawn,
Yr holl addysg ga'dd e' gartre',
Oedd nyddu, a chardio, a chodi mawn.

Mewn ffeiriau Dic a fedrai swagro
Dan dynu am dano'n eitha' dyn;
Gwneuthur Shot a bygwth paffio,
Ac yno hwylio i ddawnsio ei hun,

O'r diwedd Dic a ddaeth i Lundain,
A'i drwyn 'fewn llathen at gynffon llo,
Ar hyd y ffordd a'i bastwn onen,
Yr oedd e'n gwaeddu, "Hai, ptrw, ho!"

Fe ga'dd le efo Haberdasher,
'Ran ei fod e'n ddewisol iach.
I fyn'd i gario amryw geiriach,
Creiau neu ryw binau bach.

Dechreuodd yno fwrw ei henflew,
Ca'dd sipog las a gwasgod wen;
Ac i wneyd ei hun yn gryno,
Dechreuodd hwylio i bowdro ei ben,

Ond toc fe flinodd ar wasanaeth,
A mynodd helaeth shop ei hun,
Er gwyddai'r cryddion a'r teilwriaid
Mai mewn dyled oedd y dyn.

Dechreuodd wybod am y farchnad,
Ymledu, siarad, a chadw swn;
Nid oedd un dyn mor hardd ei ymddygiad,
Mewn Half Boots a Phantaloon.

'Nol llyncu polyn ac ymchwyddo,
A'i glustiau'n gryno'n rhwbio ei grys,
A thorch o fwslin am ei wddw',
A chylch o fodrwy am ei fys.

Ar Ddiwsul Dic a fyddai'u benaeth,
Mewn Gig, a geneth gydag e',
Ac yn gwaeddi mewn rhyw lediaith,
Open the gate, and clear the way.