Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bu yn brif golofn y teulu o hynny ymlaen am lawer o flynyddoedd. Yn ei dro daeth yntau yn fugail y ddeadell yng Nghricieth a dilynwyd yntau drachefn yn yr un swydd gan ei nai, Mr. William George, olyniaeth apostolaidd pur anghyffredin. Nid pobl i ofni bod yn y lleiafrif gyda dim, ac yn sicr nid pobl i fodloni byw ar elusen neb, oedd y Llwydiaid. Sonia Saeson weithiau am darddiad Mr. Lloyd George fel pe buasai yn rhyfeddod iddo godi o amgylchiadau mor gyffredin." Efallai y buasai yn rhyfeddod yn Lloegr, ond yng Nghymru buasai yn anodd iddo gael tir mwy cyfaddas a ffafriol.

Yr oedd gan y teulu draddodiad urddasol a rhuddin.

Yr oedd Rebecca Llwyd yn fyw pan ddygodd Richard Lloyd ei chwaer a'i theulu i Lanystumdwy o Sir Benfro: Cadwodd yr hen wraig y deyrnwialen yn ei dwylaw meistraidd a medrus ei hun, yn berffaith naturiol felly, hyd derfyn ei hoes," medd Mr. William George, ond daeth y diwedd yn 1868, ac o hynny ymlaen Richard Lloyd oedd y brenin. Yr oedd ei ddylanwad ef yn ei ardal eisoes yn fawr a dyfnhau a wnai'r parch iddo o hyd. Cymerodd yntau holl faich y teulu bach ar ei ysgwyddau a chariodd ef yn dawel ac yn ddewr trwy hindda a drycin nes gweled pob un ohonynt wedi sefydlu yn y byd. Ni phriododd; gofalodd am blant ei chwaer fel pe buasent yn blant iddo ef ei hun; pryderodd a chynlluniodd ar eu rhan; cyd-lafuriodd â hwynt a chafodd fyw i weled y bachgen bach dwyflwydd oed a ddaeth ato yn amddifad o dad, ac yn ddigon diolwg ei ddyfodol, yn Brif Weinidog. Nid yn aml y mae ffawd mor garedig wrth y rhai sydd yn aberthu dros eraill.

Dywedwyd cryn lawer o dro i dro am y tlodi y magwyd Mr. Lloyd George ynddo. Yng nghofiant Richard Lloyd gesyd Mr. William George y mater hwnnw yn ei le priodol. Dyma a ddywed ef: "Wrth gwrs, termau cymhariaethol ydyw 'tlodi' a 'chyfoeth.' Y mae'n wir ein bod yn byw ymhell o beryglon y bywyd moethus, ac mai'r argraff a adewid ar ein meddyliau fel plant ydoedd bod gwastraff o bob math yn bechod. Credaf, er hynny, nad oedd neb yn y pentref yn cadw gwell na mwy amrywiol bwrdd na ni. Treuliasom ein maboed heb gysgod pryder ar bwyntiau o'r fath yna. Yn ddiweddarach mewn bywyd y dysgasom na fuasai hyn