yn bosibl ar adnoddau mor brin, onibai am ddarbodaeth a deheurwydd fy mam a chynhorthwy parod fy ewythr." Ychwanega fod pob lle i gredu fod Richard Lloyd yn gwneud bywoliaeth gysurus oddiwrth ei alwedigaeth. Yn ddiweddarach y daeth y wasgfa, pan orfu i Richard Lloyd, oherwydd cyflwr ei iechyd, roddi'r gorau i'w waith fel crydd a myned i fyw i Gricieth, lle bu'r fam a'r chwaer yn cadw tŷ i ymwelwyr haf, a phan oedd y ddau fachgen yn cael eu cychwyn fel cyfreithwyr.
Wrth reswm, bywyd syml plant pentref yn y wlad oedd bywyd y ddau fachgen a'u chwaer. Mynd i ysgol yr Eglwys, rhedeg ar negeseuau i hwn a'r llall, gweithio yn yr ardd ac yn y gweithdy yn eu horiau hamdden. Y mae Mr. Lloyd George yn ymfalchio yn y ffaith mai ef fyddai yn teilo'r ardd ac yn ei phlannu yn y blynyddoedd hynny, a ffrwyth profiad personol, y mae'n sicr, oedd y diweddglo enwog hwnnw i'w araith yng Nghaernarfon yn 1909, pan ddisgrifiodd blant a hen bobl yn myned i'r coed i gasglu cynnud ar ôl y storm. Ar yr un pryd, y mae'n nodweddiadol o Gymru'r cyfnod—ac o Gymru o hyd, o ran hynny—nad oes awgrym yn yr holl hanes fod Richard Lloyd na Mrs. George wedi breuddwydio am i'r un o'r bechgyn ddilyn galwedigaeth eu taid a'u hewythr. Dywedodd Sais ieuanc a fagwyd yng Nghymru wrthyf unwaith: "Pe buasai fy nhad yn Gymro, nid i'r alwedigaeth yr wyf ynddi y buasai wedi fy magu. Buasai Cymro wedi mynnu cael addysg dda i mi a rhoddi gwell cychwyn mewn bywyd." Dyna, beth bynnag, oedd syniad Richard Lloyd a'i chwaer am eu dyletswydd tuagat David Lloyd a William George. Ac i bobl o'u hargyhoeddiadau hwy nid oedd y drws arferol yng Nghymru yr adeg honno-drws y pulpud—yn agored. Ni chredent yn y weinidogaeth daledig; pe amgen, y mae'n ddigon posibl mai i'r cyfeiriad hwnnw y buasai David, beth bynnag, wedi troi.
Penderfynwyd mai cyfreithiwr a fyddai, a dechreuodd ar ei hyfforddiant yn swyddfa Breese, Jones a Casson, ym Mhorthmadog, swyddfa barchus iawn yn y cylch a llawer o fusnes ynddi. Edward Breese, gŵr amlwg fel hynafiaethydd a Rhyddfrydwr, (ef oedd golygydd The Kalendars of Gwynedd), oedd y pennaeth. Mab oedd Mr. Breese i'r Parch. John Breese, gweinidog Annibynnol lled