adnabyddus yn ei ddydd. Gweithiodd David Lloyd yn galed i basio ei arholiadau a gweithiodd Richard Lloyd yr un mor galed i'w gynorthwyo. Yr oedd yn gryn wasgfa ariannol ar y teulu erbyn hyn, y fam a'r chwaer yn ceisio gwneud bywoliaeth trwy gadw lle i ymwelwyr haf yng Nghricieth, a Richard Lloyd, yn wanllyd ei iechyd, yn gweithio ychydig fel y medrai gyda'i grefft ac yn pryderu llawer ynghylch y dyfodol. Dyma, y mae'n debyg, yr adeg a wnaeth Mr. Lloyd George yn elyn anghymodlawn i dlodi a chaledi byd y werin. "Mi wn i beth ydyw gwasgfa," meddai wrthyf un tro," a phenderfynais wneud fy ngorau i ysgafnhau'r baich i bobl eraill."
Eithr, trwy'r cwbl, ni lwfrhaodd y teulu bach. Daeth dydd y praw ac aeth David Lloyd i Lundain am ei arholiad terfynol. Yr oedd hynny ym mis Ebrill, 1884, a chafodd lythyr oddiwrth ei ewythr a fuasai yn codi calon unrhyw fachgen pryderus o dan yr amgylchiadau. "A fyddai yn well inni gyd-chwibanu—We are jolly good fellows yn gyntaf, tybed?" meddai Richard Lloyd. Wel, os nad oes digon o amser y mae digon o ysbryd at hynny gennyf fi yr wyf yn sicr—I fyny ati fel llew fy machgen i !...Cool as a cucumber, though not so green, yw motto student ar ddydd yr Exam. A gelli di yn gyfreithlon. ei fabwysiadu, Dei." Aeth Mr. Lloyd George trwy'r arholiad gydag anrhydedd. Ar ôl cael ei dderbyn fel cyfreithiwr sefydlodd i gychwyn yng Nghricieth fel gofalwr am swyddfa yn perthyn i Breese, Jones a Casson, ond pan gynigiodd y ffyrm le iddo yn Sir Feirionnydd penderfynodd mai gwell fuasai iddo gychwyn ar ei liwt ei hun—un o'r penderfyniadau hynny sydd yn galw am gryn lawer o ddewrder i'w gwneud—ac agorodd swyddfa yn y cartref ym Morvin House yn Tanygrisiau Terrace. Dyna gychwyn y ffyrm gyfreithiol Lloyd George a George, canys, cyn bo hir pasiodd ei frawd William yn gyfreithiwr hefyd a daeth y ddau frawd yn bartneriaid, partneriaeth a barhaodd hyd oni ddaeth Mr. Lloyd George yn aelod o'r Cabinet yng ngweinyddiaeth Campbell-Bannerman.