Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo pan gymrodd ffarm ar un ystâd yn agos i drigain mlynedd yn ôl oedd a fyddai ef yn arfer cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Gofynnwyd i fy nhaid, gan berchennog y ffarm yr oedd yn byw arni, gefnogi ymgeisiaeth Wynne Beniarth yn Sir Feirionydd ar y tir fod safle y gŵr hwnnw yn rhoddi hawl iddo gynrychioli'r sir yn y Senedd. Os darllenir tystiolaeth Tom Ellis gerbron y Ddirprwyaeth Dir ceir yr un olwg ar gyflwr pethau yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw, ac y mae'n anodd bod yn amyneddgar gyda'r sôn, hanner hiraethus, am yr adeg pan oedd y meistri tir yn teyrnasu. Cawsom lawer siomedigaeth chwerw yn y drefn newydd, ond nid yw hynny reswm yn y byd dros nyddu gwawl o ramant o amgylch yr hen drefn.

Fel y dywedwyd, dewisodd Mr. Lloyd George ei lwybr, ac nid y llwybr canol oedd hwnnw. Buasai'n hawdd iddo fod wedi cyfaddawdu, eithr ni wnaeth. Gwelodd yn gynnar ar ei yrfa fel cyfreithiwr nad oedd obaith am ddim tebyg i gyfiawnder yn y llysoedd ynadol ynglŷn â rhai troseddau a bod y llysoedd hynny, mewn achos o herwhela neu bethau o'r fath, yn fynych yn peidio a bod yn llysoedd barn. Gwelodd hefyd mai yr unig ffordd i wella'r drwg oedd ei herio yn agored, ac felly y dechreuodd cyfres o frwydrau chwerwon rhwng y cyfreithiwr ieuanc a'r ynadon oedd wedi hen arfer cael eu ffordd eu hunain. Dywedodd wrth ynad ym Mhwllheli fod bod yn amhleidiol yn amhosibl iddo ef a'i fod yn eistedd ar y fainc fel Tori ac nid fel barnwr. Yng Nghaernarfon dywedodd wrth yr ynadon nad oedd fodd disgwyl am gyfiawnder ganddynt hwy mewn achos o helwriaeth. Cododd y cadeirydd ac amryw eraill a chychwynasant allan. "Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi, foneddigion," meddai'r cyfreithiwr ieuanc didoriad. Yn raddol, dysgodd yr ynadon y wers a buont yn fwy gofalus, yn enwedig pan fyddai Mr. Lloyd George yn y llys.

Yr oedd y pethau hyn wedi dechrau tynnu sylw'r wlad, ond yn ddiweddarach y daeth y peth a wnaeth enw Mr. Lloyd George yn hysbys i bawb fel cyfreithiwr, sef achos y claddu yn Llanfrothen yn 1888. Yn y lle hwnnw gwrthododd y rheithor adael claddu dyn yn y man a ddymunai ym mynwent yr eglwys o dan y drefn newydd. Yr oedd y dyn, chwarelwr o'r enw Robert Roberts, wedi