dweyd fod arno eisiau cael ei gladdu yn y rhan newydd o'r fynwent, yn ymyl bedd ei ferch, a mynnai'r rheithor ei gladdu mewn man anial ar y fynwent, ymhell o'r lle a ddewisodd. Clowyd llidiart y fynwent, ac ymgynghorodd y teulu â Mr. Lloyd George. Cynghorodd yntau hwy i ail agor y bedd a dorrwyd yn ymyl bedd y ferch a thorri clo'r fynwent. Hynny a wnaed, a chladdwyd Robert Roberts yn y fan a ddymunodd.
Dygodd y rheithor gyngaws yn erbyn y teulu yn y Llys Sirol ac amddiffynwyd hwy gan Mr. Lloyd George. Nid oedd ganddo ffydd yn y barnwr, gŵr anwybodus a rhagfarnllyd, a mynnodd gael rheithwyr i brofi'r achos. Ei ddadl ef oedd fod y rhan newydd o'r fynwent yn rhan o fynwent y plwy ac felly yn dyfod o dan y Ddeddf Gladdu. Rhoddodd y rheithwyr eu barn o'i blaid, ond gosododd y barnwr eu dyfarniad o'r neilltu. Apeliwyd, ac yn yr Uchel Lys, gerbron yr Arglwydd Brif Farnwr Coleridge a'r Barnwr Manisty, gosodwyd dyfarniad. barnwr y Llys Sirol o'r neilltu, nid heb gerydd iddo am ei agwedd. Yr oedd y fuddugoliaeth yn un hollol deg ar dir cyfraith, ac ar ôl hynny yr oedd enw Mr. Lloyd George yn adnabyddus trwy y rhan fwyaf o Gymru.
Y mae'n werth sylwi, gyda llaw, fod y nodweddion a ddangosodd yn y frwydr hon yn nodweddion hanfodol yn ei gymeriad ar hyd ei fywyd. Beiddgarwch y peth a dynnodd sylw'r wlad, yr herio ar yr awdurdodau a'r ysbryd ymladd a ddangoswyd gan y cyfreithiwr ieuanc. Ond y tucefn i hyn oll yr oedd gwybodaeth gyfreithiol, gofal wrth baratoi'r achos a chraffter i weled y man gwan yn achos yr ochr arall. Tuedda llawer o bobl i feddwl hyd heddiw mai menter a beiddgarwch yw nodweddion amlycaf Mr. Lloyd George, ond y tu cefn i'r cwbl y mae gwyliadwriaeth fanwl a pharatoi diflino. Ar hyd ei yrfa, peth peryglus oedd cymryd yn ganiatâol nad oedd gan Mr. Lloyd George adnoddau wrth gefn.
Erbyn hyn yr oedd y dyfodol yn gliriach. Dechreuodd y sôn am y cyfreithiwr ieuanc fyned ar led ers tro. Ni chollodd yntau gyfle i gymryd rhan yn y pethau oedd yn myned ymlaen yng Nghymru ar y pryd. Cyfnod o symud, o ddeffro ac o ymestyn oedd hwnnw, pan ddechreuwyd sylweddoli fod llawer o ddrysau y gallai Cymro ieuanc, gweithgar a phenderfynol, eu hagor. Tua'r adeg