Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma y bu Mr. Lloyd George yn ysgrifennu cyfres o ysgrifau i'r North Wales Observer, papur Saesneg swyddfa'r Genedl Gymreig yng Nghaernarfon, dan yr enw "'J' Pen." Siaradodd lawer ar y llwyfan dirwestol; yr oedd y mudiad hwnnw mewn bri mawr yng Nghymru yr adeg honno a rhai o siaradwyr gorau'r genedl yn ei gefnogi. Ac yn 1885 cymerwyd y cam cyntaf tua'r Senedd. Dyna a ddywed Mr. Lloyd George ei hun, ond y mae'n fwy na thebyg ei fod wedi meddwl am y peth ers blynyddoedd a braidd yn sicr fod Richard Lloyd wedi penderfynu ers tro mai tua Thy'r Cyffredin yr oedd llwybr y bachgen i gyfeirio. Damwain, serch hynny, a ddaeth a'r cyfeiriad i'r amlwg.

Yr oedd Michael D. Jones, Prifathro Coleg yr Annibynnwyr yn y Bala a rhagflaenydd y mudiad cenedlaethol Cymreig, wedi trefnu cyfarfod i Michael Davitt ym Mlaenau Ffestiniog—peth beiddgar iawn i'w wneud. Bu Davitt yn ysgrifennydd i'r Irish Republican Brotherhood; bu yng ngharchar am saith mlynedd am y trosedd a elwid yn treason-felony; cododd gynnwrf ynghylch pwnc y tir yn Iwerddon, sylfaenodd y Land League, ac anfonwyd ef i garchar drachefn. Etholwyd ef yn aelod seneddol yn 1882; anfonwyd ef i garchar y trydydd tro yn 1883 am ddadlau hawliau Iwerddon, ac y mae yn ddiamau yr edrychid arno gan Ryddfrydwyr parchus Cymru yr adeg honno—cyn i Gladstone droi o blaid ymreolaeth i Iwerddon—fel cynhyrfwr peryglus ac anystyriol iawn. Peth beiddgar, fel y dywedais, oedd gwahodd y fath ddyn i Ffestiniog, ac ni fynnai yr un o arweinwyr amlwg Rhyddfrydiaeth yn yr ardal arddel y cyfarfod. Un gweinidog yn unig oedd ymhlith y gynulleidfa, ag eithrio, wrth gwrs, Michael Jones ei hun. Chwarelwr, Dafydd Williams, Tyddyn Cwtyn, oedd y cadeirydd, a methodd yntau a chael neb i gynnig diolch i Davitt am ddyfod yno.

Dywedodd hynny wrth Dr. Evans. Dywedodd Dr. Evans fod Mr. Lloyd George yn digwydd aros gydag ef ac y gofynnai iddo ef wneud. Aeth Mr. Lloyd George i'r cyfarfod, siaradodd, ac yn ei araith cyfeiriodd at gyflwr truenus Cymru ac at waith yr offeiriaid a'r Lefiaid yn myned o'r tu arall heibio a Samariad o Iwerddon yn dyfod i'w hymgeleddu. Berwodd y lle, ac ar swper yn nhŷ Dr. Evans ar ôl y cyfarfod dywedodd Davitt, gan