Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfeirio at Mr. Lloyd George: Dyma'r math o ddyn ifanc yr ydym ni yn ei anfon i'r Senedd o Iwerddon yn awr, a dyma'r math y dylech ei anfon yno o Gymru hefyd." Ychydig yn ddiweddarach dywedodd Dr. John Thomas yr un peth ar ôl bod yn siarad oddiar yr un llwyfan â Mr. Lloyd George ym Mhorthmadog, ac nid oedd amheuaeth i fod bellach. Penderfynodd y cyfreithiwr ieuanc fyned i'r Senedd. Ymhen tair blynedd ar ôl hyn y bu achos Llanfrothen, ac y mae'n debyg mai hwnnw yn bennaf a argyhoeddodd y wlad fod defnydd aelod seneddol o fath mwy ymosodol nag yr oedd Cymru wedi arfer ag ef yn Mr. Lloyd George.

Er hynny, nid yn rhwydd iawn y cafodd Mr. Lloyd George lwybr agored tua Thŷ'r Cyffredin. Bu ei enw gerbron Cymdeithas Ryddfrydol Meirion, ond ar Thomas Edward Ellis y syrthiodd ei choelbren hi. Yn Sir Gaernarfon ystyrid ef gan lawer yn rhy eithafol, yn rhy chwyrn ei air ac yn rhy ddibarch i awdurdod. "Ymdrech y gwrthryfelwr oedd fy ymdrech i o'r cychwyn," meddai wrthyf unwaith, "ac ychydig iawn o gefnogaeth a gefais gan set fawr Rhyddfrydiaeth" Yr oedd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn rym ym mywyd gwleidyddol y wlad yr adeg honno, ac ni fynnai ef gefnogi Mr. Lloyd George am na ymrwymai i wrthwynebu pob mesur Rhyddfrydol os na roddai gweinyddiaeth Mr. Gladstone y flaenoriaeth i ddatgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Yr oedd agwedd Evan Jones yn nodweddiadol o eiddo amryw eraill, a bu cryn lawer o ddadlau a chroes-ddadlau cyn i Ryddfrydwyr Bwrdeisdrefi Arfon ddewis Mr. Lloyd George fel ymgeisydd, yn 1889.

Yn 1889, yn ôl pob golwg, yr oedd dwy flynedd cyn y deuai etholiad cyffredinol, ac er fod Mr. Lloyd George yn siarad yma ac acw yn yr etholaeth, ar ochr arall i fywyd cyhoeddus y rhoddodd ei fryd yn bennaf yn y blynyddoedd hynny. Yn 1888 pasiwyd deddf llywodraeth leol, y ddeddf a ddygodd y cynghorau sir i fod, ac yn y cynghorau hynny gwelodd Tom Ellis, yn anad neb o arweinwyr cyhoeddus Cymru ar y pryd, gyfle i'r genedl roddi ei thŷ mewn trefn a sicrhau mesur helaeth iawn o hawl i'w llywodraethu ei hun. Cyfranogodd Mr. Lloyd George hefyd o'r un ffydd; pregethodd y dylai'r cynghorau newydd fod yn llawer mwy na byrddau lleol i ymdrin â