Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

materion sir a phlwy, a gweithiodd yn egniol i sicrhau aelodaeth ar gyngor Sir Arfon a fuasai yn ymdrechu sylweddoli'r delfryd uwch. Ni bu yn ymgeisydd ei hun ond gweithiodd gydag egni tanllyd dros ymgeiswyr eraill, a phan sicrhawyd mwyafrif Rhyddfrydol sylweddol ar y cyngor newydd dewiswyd yntau yn henadur yn y cyfarfod cyntaf. Y mae yn parhau yn henadur hyd heddiw ac y mae'n debyg o barhau yn henadur hyd y diwedd, er na bu mewn cyfarfod o'r cyngor sir ers blynyddoedd lawer.

Cyn hyn yr oedd Mr. Lloyd George wedi cymryd rhan yn rhyfel y degwm, y mudiad a gododd yng Nghymru, fel gwrthdystiad yn erbyn talu'r degwm at gynhaliaeth eglwys nad oedd mwyafrif y bobl mewn llawer ardal yn perthyn iddi, ac fel rhan o'r mudiad hwnnw sefydlodd undeb i amaethwyr Llŷn, yn Sir Gaernarfon. Gellir dweyd amdano yn y cyfnod yma ei fod i'w weled ac i'w glywed yn rhengau y rhan fwyaf o'r mudiadau blaen yn y wlad a'i fod yn credu mai trwy gael ymreolaeth i Gymru y gellid medi ffrwyth ymdrechion politicaidd y cyfnod. Y mae yn werth sylwi ei fod ef, fel Tom Ellis hefyd, yn rhoddi pwys ar yr ochr gymdeithasol mor fore a hynny. Y mae araith Tom Ellis yn y Bala yn 1890 ac eiddo Mr. Lloyd George yng Nghaerdydd yn yr un flwyddyn yn werth eu darllen heddiw fel dangosiad o'r hyn oedd ym mryd gwŷr ieuanc y mudiad gwleidyddol Cymreig yr adeg honno. Datgysylltiad, gwella deddfau'r tir, dewisiad lleol ynglŷn â gwerthu diodydd meddwol—dyna rai o'r prif bwyntiau yr oedd Rhyddfrydwyr Cymru yn brwydro drostynt yr adeg honno, ond dywedodd Mr. Lloyd George yn ei araith yng Nghaerdydd nad oedd y pethau hynny yn gwneud mwy na chyffwrdd godre y broblem gymdeithasol fawr y byddai yn rhaid ei hwynebu maes o law. Y mae hyn yn ddiddorol pan gofir am yr ymgyrch a gychwynwyd ganddo ymhen yn agos i ugain mlynedd yn ddiweddarach. Beth bynnag a ddywedir am Mr. Lloyd George fel gwleidydd, am ei gysondeb ac am ei gamgymeriadau, y mae yn sicr na anghofiodd erioed fod miloedd o bobl yn dlawd heb fod dim bai arnynt hwy.

Cyn dyfod at hanes ei flynyddoedd cyntaf yn y senedd dylid sôn am un digwyddiad pwysig iawn. Ym mis Ionawr, 1888, yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhencaenewydd, yn Eifionydd, priodwyd ef â