Margaret Owen, merch Richard Owen, Mynydd Ednyfed, Cricieth. Amaethwr oedd Richard Owen, ac ni thybiai pawb fod nai y crydd o Lanystumdwy yn ddigon da, o ran safle gymdeithasol, iddi. Ni phoenodd hynny ddim arni hi, ac ar hyd ei gyrfa nid wyf yn meddwl iddi erioed roddi munud i feddwl am safle gymdeithasol neb. Trodd ymhlith pob math o bobl—ffermwyr Eifionydd, aelodau seneddol, brenhinoedd ac arweinwyr y gwledydd gyda'r un urddas bonheddig, tawel, yr un synnwyr cyffredin craff, yr un caredigrwydd a'r un hiwmor. Yn ei ffordd ei hun yr oedd mor nodedig â'i gŵr a bu yn dŵr o nerth iddo am dros hanner canrif. Nid gormod yw dywedyd fod galar cyffredinol pan fu farw yn nechrau 1941. Yr oedd yn esiampl wych o gwrteisi, synnwyr ac urddas gwladwyr Cymru. Bu iddynt bump o blant. Bu'r ferch hynaf, Mair Eluned, farw yn 1907. Y lleill ydyw Major Richard Lloyd George, Lady Carey Evans, Major Gwilym Lloyd George, sydd yn aelod Seneddol dros Sir Benfro, ac ar hyn o bryd yn aelod o Weinyddiaeth Mr. Churchill, a Miss Megan Lloyd George, sydd yn aelod Seneddol dros Fôn.
Y tro diwethaf i mi weled Dame Margaret Lloyd George dywedodd wrthyf ei bod wedi disgwyl, pan ddewiswyd Mr. Lloyd George yn ymgeisydd ym Mwrdeisdrefi Arfon, y cawsent flwyddyn neu ddwy, beth bynnag, o dawelwch. Trefnasant i fyned am dro i Gaernarfon un diwrnod—ef i ddyfod oddiwrth ei waith gyda'r trên o Borthmadog a hithau i'w gyfarfod yn stesion Cricieth. Yr oedd y ddau yn edrych ymlaen am roddi diwrnod diofal i'r brenin. Ond, pan gyrhaeddodd hi stesion Cricieth, rhoddwyd teligram, wedi ei gyfeirio i Mr. Lloyd George, iddi. Agorodd hithau ef a darllenodd fod Swetenham, yr aelod Toriaidd dros y Bwrdeisdrefi, wedi marw'n sydyn. "Gwyddwn beth a olygai hynny," meddai, a phan ddaeth y trên i mewn a phan ddywedais wrth y gŵr, diflannodd y wên oedd ar ei wyneb. Mi aethom i Gaernarfon, ond diwrnod annifyr iawn gawsom ni yno. Yr oedd meddwl am yr etholiad fel hunlle arnom ein dau."