Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwriad am flynyddoedd lawer. A phan y'i sylweddolwyd yr oedd yr hen freuddwydion wedi diflannu a'r hen obeithion wedi eu siomi a'r hen egni wedi pallu.

Pwnc gwleidyddol y dydd yn y blynyddoedd hynny yng Nghymru oedd datgysylltiad yr Eglwys. Gwnaeth Mr. Lloyd George ei hun yn bennaf ymladdwr o blaid hwnnw a daeth yn fuan i wrthdrawiad a rhai gwŷr blaenllaw iawn wrth ei drafod. Ni phetrusodd feirniadu a chroesi Mr. Gladstone ei hun, ac yr oedd angen dewrder pur fawr i wneud hynny, am fwy nag un rheswm. Yn un peth, yr oedd Gladstone yn ŵr peryglus iawn i'w groesi; yr oedd yn alluog iawn, yr oedd ganddo brofiad anghymarol, ac yr oedd yn ddadleuydd a fedrai osod ei ofn ar Dŷ'r Cyffredin unrhyw ddydd. Heblaw hynny, yr oedd yn eilun y Rhyddfrydwyr yng Nghymru ac y mae Cymru yn wleidyddol bob amser wedi tueddu at eilun addoliad. Rhywbeth tebyg iawn i gabledd oedd ei feirniadu ym marn llawer o'r Rhyddfrydwyr parchusaf, a hynny er fod ei Uchel-Eglwysyddiaeth nid yn unig ymhell iawn oddiwrth syniadau y rhan fwyaf o'i gefnogwyr Cymreig ond hefyd er fod cryn lawer o amheuaeth ynghylch ei wir sêl dros ddatgysylltiad. Eithr beirniadu a gwrthwynebu a wnaeth Mr. Lloyd George a phwyso, mewn amser ac allan o amser, pan ddaeth gweinyddiaeth Ryddfrydol i awdurdod, am roddi lle blaen i'r pwnc Cymreig.

Daeth y cyfle hwnnw ymhen dwy flynedd ar ôl iddo fyned i'r Senedd. Yn etholiad cyffredinol 1892 cafodd Toriaid y Bwrdeisdrefi ymgeisydd newydd i sefyll drostynt. Syr John Puleston oedd hwnnw, aelod o hen deulu Cymreig ac ewythr i'r diweddar Barchedig Ddr. John Puleston Jones. Yr oedd ef wedi bod yn y Senedd o'r blaen, fel aelod dros Devonport, a chredid y byddai ei brofiad a'i gysylltiadau Cymreig o gryn gymorth iddo yn yr ymgyrch. Yr oedd ei nai, Puleston Jones, yn weinidog ym Mangor ar y pryd, a dywed y Parch. R. W. Jones, yng nghofiant Puleston, fel y pwyswyd ar y gweinidog ieuanc, gan ei fam ac eraill, i gefnogi ei ewythr, canys yr oedd ganddo lawer o ddylanwad eisoes. "Ar un amod, mam," meddai yntau, "y fotia i dros f'ewythr, nad af i byth i bulpud," a siaradodd a gweithiodd dros Mr. Lloyd George. Bu'n ymdrech galed ac erys y cof am rai o