Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

areithiau Mr. Lloyd George yn ystod yr ymgyrch o hyd. Clywais adrodd un dywediad o'i eiddo mewn cyfarfod. "Y mae cefnogwyr Syr John Puleston," meddai, "yn rhoi llawer o'u hamser i brofi ei fod o'n Gymro, a 'does dim amheuaeth nad ydynt yn dywedyd y gwir. Ond a glywsoch chwi rywun yn gwastraffu pum munud erioed i brofi fy mod i'n Gymro?" Canlynaid yr etholiad fu buddugoliaeth i Mr. Lloyd George gyda 196 o fwyafrif. Dywedodd Syr John Puleston nad oedd yn ddim dicach wrth Mr. Lloyd George ond na faddeuai byth i Beriah Evans.

Y mae gair o eglurhad ar hynny yn angenrheidiol. Ni bu Mr. Lloyd George erioed yn ôl o sylweddoli pwysigrwydd y wasg, a bu iddo ran pur flaenllaw mewn ffurfio cwmni i brynu'r Genedl Gymreig yng Nghaernarfon yn y blynyddoedd hynny. Cymerai ddiddordeb personol yn y Genedl a bu'n ysgrifennu llythyrau o'r Senedd iddi ei hun. Yr oedd yn aelod o fwrdd y cyfarwyddwyr, a chredaf y bu iddo ran mewn cael Beriah Gwynfe Evans, oedd eisoes yn lled adnabyddus fel newyddiadurwr, i ddyfod i Gaernarfon o swyddfa'r South Wales Daily News yng Nghaerdydd i fod yn olygydd y Genedl a'r North Wales Observer ac yn rheolwr cyffredinol y swyddfa. Ymdaflodd Beriah i'r gwaith yn egniol iawn, a'r traddodiad yn y swyddfa oedd ei fod, yn ystod etholiad 1892, wedi gweithio mor galed ac ysgrifennu cymaint nes parlysu ei law dde am ysbaid. Beth bynnag am hynny, nid oes amheuaeth na bu i'r papurau a'u golygydd ran pur fawr mewn sicrhau y fuddugoliaeth.

Canlyniad yr etholiad yn y wlad yn gyffredinol oedd mwyafrif mor fychan—dim ond deugain—i'r Rhyddfrydwyr fel yr oedd yr aelodau Gwyddelig yn dal y fantol. Yn dair a phedwar ugain oed, ymgymerodd Gladstone a bod yn Brif Weinidog unwaith yn rhagor—am y pedwerydd tro—ac i roddi Rhaglen Newcastle mewn grym, hynny ydyw, i gyflwyno mesurau a roddai ymreolaeth Iwerddon, datgysylltiad i Gymru, dewisiad lleol i'r wlad ynglŷn â masnach diod, a chyngorau plwy i bob ardal, ymhlith pethau eraill. Yr oedd yn faich trwm hyd yn oed pe buasai gan yr hen ŵr fwyafrif mawr ac hollol annibynnol y tu cefn iddo; fel yr oedd hi, yr oedd angen ei ddewrder a'i benderfyniad a'i ynni di-ildio ef ei hun