Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

AETH yn helynt yn fuan. Nid oedd Mr. Lloyd George yn fodlon ar ddatganiadau Gladstone ac aelodau ei weinyddiaeth ynghylch y lle a roddid i ddatgysylltiad a phenderfynodd y dylid codi gwrthryfel. Yr oedd ambell un arall o'r aelodau Cymreig yn dal y dylid rhoddi hawliau Cymru ar yr un tir yn gymwys a hawliau Iwerddon; er enghraifft, dywedodd Alfred Thomas (Arglwydd Pontypridd ar ôl hynny) na byddai iddo ef bleidleisio dros fesur i roddi ymreolaeth i Iwerddon os na ddygid mesur i roddi datgysylltiad i Gymru i mewn yr un pryd. Yr oedd rheswm dros hyn; gyda'i mwyafrif bychan ac ansicr yr oedd yn lled anhebyg y gallai'r weinyddiaeth oroesi storm arall ar ymreolaeth, a chredai'r Cymry, neu rai ohonynt, os oeddynt i gipio rhyw fantais o gwbl oddiwrth y weinyddiaeth Ryddfrydol ar ôl blynyddoedd o lywodraeth Doriaidd, fod yn rhaid manteisio ar y cyfle cyntaf. Nid oedd gan Gladstone fwyafrif o gwbl yn Lloegr; Cymru a'r Alban a roddodd y Rhyddfrydwyr i mewn, ac yr oedd yn bur sicr, os ceid etholiad cyffredinol arall yn fuan, mai Arglwydd Salisbury a ddeuai'n ôl i awdurdod.

Eithr nid oedd pawb o'r aelodau Cymreig yn barod i fyned a phethau i, eithafion er mwyn cael y maen i'r wal. Pan wynebwyd hwy â'r cwestiwn a oeddynt yn barod i roddi eu cenedligrwydd o flaen eu ffyddlondeb i Mr. Gladstone, pedwar yn unig a ddywedodd nad oeddynt mwyach yn barod i dderbyn chwipiau swyddogol y Rhyddfrydwyr. Y pedwar hynny oedd Mr. Lloyd George, Mr. Herbert Lewis (wedi hynny Syr Herbert Lewis), yr aelod dros fwrdeisdrefi Fflint, Frank Edwards (wedi hynny Syr Frank Edwards), yr aelod dros Sir Faesyfed, a D. A. Thomas (Arglwydd Rhondda yn ddiweddarach), un o'r aelodau dros Ferthyr. Gŵr mwyn a thawel oedd. Herbert Lewis, ond o dan y mwynder hwnnw yr oedd haen o benderfyniad ac o ddewrder pur eithriadol. Clywais un oedd yn ei adnabod yn dda yn dweyd fod Herbert Lewis yn caru heddwch ac yn casau cyffro ond fod ganddo y math o ddewrder prin oedd yn barod i wynebu cyffro yn ddigryn pan argyhoeddid ef fod gwir angen am hynny. Gŵr rhadlon oedd Frank Edwards