yntau, yn ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg a cherddoriaeth, siaradwr da a gŵr oedd yn deall dynion.
Gŵr amlwg ym myd diwydiannol y de oedd D. A. Thomas, annibynnol iawn ei ysbryd, parod i wrthryfela. ar ychydig o gymhelliad, galluog a pheryglus mewn dadl, ond ni lwyddodd fel gwleidyddwr. Ar derfyn ei oes, pan wnaed ef yn rheolwr bwyd yng ngweinyddiaeth Mr. Lloyd George yn ystod y rhyfel diwethaf, y cafodd ei alluoedd eu cyfle ac y sylweddolwyd pa mor alluog ydoedd mewn gwirionedd.
Apeliodd y pedwar at y wlad a buont yn annerch cyfarfodydd ar hyd a lled Cymru. Gofynnwyd i Mr. Lloyd George a oedd yn barod i orchfygu'r weinyddiaeth ar bwnc datgysylltiad a cholli yr holl fesurau eraill yr oedd sôn amdanynt yn Rhaglen Newcastle, a'i ateb oedd nad oedd yn barod i gynorthwyo'r Llywodraeth i dorri ei haddewid i Gymru. "Os deil y Llywodraeth at ei bwriad i roddi'r flaenoriaeth i fesurau eraill," meddai, "bydded ei gwaed ar ei phen hi ei hun." Yr oedd Tom Ellis mewn sefyllfa anodd iawn; ar un llaw yr oedd yn rhwym o fod yn ffyddlon i'r weinyddiaeth yr oedd yn aelod o honi ac ar y llaw arall yr oedd ei ymlyniad diamheuol wrth Gymru a'i gyfeillgarwch tuagat rai o'i gyd-aelodau. Cymreig. Bu mewn gwewyr mawr. Dywedodd y diweddar Barch. Gwynoro Davies wrthyf flynyddoedd lawer yn ôl ei fod yn Nhŷ'r Cyffredin un noson yr adeg yma ac iddo ofyn i Tom Ellis sut yr oedd yn teimlo. "Wedi torri fy nghalon," oedd yr ateb. Ond nid yw calonnau yn torri yn rhwydd mewn gwleidyddiaeth, a rhywfodd neu gilydd daethpwyd dros ben yr anhawster. Erbyn heddiw nid yw yn hawdd iawn gwybod beth yn gymwys a ddigwyddodd—gellir dywedyd yr un peth am laweroedd o "wrthryfeloedd "a gwrthdystiadau Cymru, fel y mae waethaf y modd—a dychwelodd y "meibion afradlon," fel y galwyd hwynt gan Arglwydd Rosebery yn ei araith yng Nghaerdydd, i'r hen gartref.
Cafwyd addewid gan Tom Ellis ar ran y weinyddiaeth y mynnid cario mesur datgysylltiad drwy Dŷ'r Cyffredin a dywedodd Arglwydd Rosebery, oedd erbyn hynny yn Brif Weinidog, mewn araith ym Mirmingham, nad apeliai'r weinyddiaeth at y wlad hyd oni byddai'r mesur Cymreig wedi myned trwy'r Tŷ. Ond bu yn rhaid aros