Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Felly, pan benderfynodd gweinyddiaeth Salisbury fod yn rhaid ymyrryd yn amgylchiadau mewnol y ddwy weriniaeth yn Neheudir Affrica, yr oedd digon o bobl yn barod i gytuno â hi. Asgwrn y gynnen ar yr wyneb oedd pwnc y bleidlais yn y Transvaal. Gwlad y Boeriaid—Is-Ellmyn o darddiad—oedd y Transvaal; hwy oedd yn ei llywodraethu yn ôl syniad pobl amaethyddol, hen- ffasiwn grefyddol, am lywodraethu, a hwy oedd wedi ei meddiannu oddiar y brodorion, wedi trin ei thir ac wedi adeiladu ei thai a'i threfi. Yr oedd Prydain wedi cydnabod annibyniaeth y Transvaal cyn belled yn ôl ag 1852, ac er bod helyntion a rhyfel wedi bod ar ôl hynny a'r Transvaal yn 1881 wedi cydnabod rhyw fath o uchafiaeth Brydeinig, yr oedd y ddwy weriniaeth i bob pwrpas ymarferol yn annibynnol o hyd. Yn anffodus iddynt hwy darganfuwyd aur a diamwnd yn eu daear, daeth anturiaethwyr yno yn llu, a chyn bo hir dechreuasant alw am y bleidlais ac am lais yn rheolaeth y wlad er mwyn eu mantais eu hunain. Yr oedd yr hen arlywydd, Paul Kruger, a'r rhai oedd gydag ef yn ddigon craff i wybod y golygai hynny i'r Boeriaid golli rheolaeth ar eu gwlad ac ar eu dull o fyw yn hwyr neu hwyrach, a gwrthwynebasant. Gwelodd pobl fel Cecil Rhodes eu cyfle—y mae'n bosibl nad oedd Joseph Chamberlain, a oedd yn Weinidog y Trefedigaethau ar y pryd, yn credu y gwrthwynebai'r Boeriaid hyd at waed, ond ni ellir ei ryddhau yntau o gyfran o gyfrifoldeb am y rhyfel—ac am na ildiai'r Boeriaid i roddi allwedd eu tŷ i estroniaid, aethpwyd i ryfel nad oes neb erbyn hyn yn ceisio ei amddiffyn. Nid oedd y Boeriaid yn berffaith o lawer; nid oedd eu hymddygiad at y brodorion, er enghraifft, yn deilwng o'u proffes Gristnogol, ond yr oedd ganddynt hawl i'w gwlad ac i'w dull eu hunain o fyw. Eithr nid dyna gred y mwyafrif llethol ym Mhrydain yn y dyddiau hynny—gan gynnwys Cymru.

Yr oedd y rhyfel yn boblogaidd iawn ar y cychwyn; cofiaf fod bron bob bachgen mewn ardal wledig Gymreig am fisoedd bwygilydd yn gwisgo tei khaki a choch er mwyn dangos ei deyrngarwch a'i sêl, a gwisgai llaweroedd fotymau a darlun rhyw gadfridog neu'i gilydd arnynt—heb wybod eto beth oedd i ddigwydd i rai o'r cadfridogion hynny cyn bo hir. Ond sylweddoli hyn, a chofio y teimlad a ddaw yn oruchaf ym mhob gwlad adeg rhyfel, fe ddeellir