Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth oedd effaith gwrthwynebiad pendant a difloesgni Mr. Lloyd George i'r rhyfel yn ei holl agweddau. Gwyddai ef ei hun yn dda beth oedd i'w ddisgwyl; gwyddai ei fod yn rhoddi ei holl yrfa, yn wleidyddol a chyfreithiol, yn y fantol, y gallai golli ei fusnes a cholli cefnogaeth ei etholwyr, ac, fel y ffyrnigai teimladau, golli ei ryddid ac efallai ei fywyd hefyd. Dywedodd wrth Mrs. Lloyd George am fyned i Gricieth gyda'r plant ac yr ai yntau i fyw mewn garet yn Llundain. "Chan' nhw mo fy llwgu i," meddai. Atebodd hithau ei bod yn ddigon bodlon i'r plant fyned i Gricieth ond nad oedd ganddi hi y bwriad lleiaf i wneud dim o'r fath, ei bod yn myned i aros gydag ef i ymladd y peth i'r pen. Ac ymladd a fu; am gyfnod, pan sylweddolwyd beth oedd ei safle, diflannodd rhan fawr o fusnes cyfreithiol Mr. Lloyd George yn Llundain, a chyn pen ychydig iawn o amser gellir dweyd heb unrhyw ormodiaith ei fod y dyn cyhoeddus mwyaf amhoblogaidd yn y wlad.

Yr oedd y frwydr yr ymgymerodd Mr. Lloyd George a'i hymladd yn un galed. Mewn iaith yr ydym wedi cynefino â hi mewn blynyddoedd diweddar, yr oedd yn war on three fronts. Dadleuodd ei achos ar lwyfannau ar hyd a lled y wlad, yn wyneb brwdfrydedd y rhan fwyaf o bobl o blaid y rhyfel. Dadleuodd ef hefyd yn Nhŷ'r Cyffredin, yn wyneb mwyafrif Toriaidd solat ac yn wyneb ffyrnigrwydd dirmygus, oer Joseph Chamberlain. Mwy na hynny, bu yn rhaid iddo wynebu beirniadaeth, oerfelgarwch a gwrthwynebiad rhai o wyr pwysicaf ei blaid ei hun. Canys nid oedd y Rhyddfrydwyr o lawer yn gytun ar y pwnc. Ni hoffai yr un ohonynt y rhyfel, ond yr oedd llawer ohonynt yn amharod i wrthwynebu'r llywodraeth tra yr oedd y rhyfel yn myned ymlaen. Ymhlith y rhai hyn yr oedd Rosebery, Asquith, Haldane ac Edward Grey. Credai hyd yn oed Syr Henry Campbell-Bannerman, arweinydd y blaid ar y pryd, na ellid osgoi rhyfel ar ôl i'r Boeriaid ymosod ar Natal, er ei fod yn anghymeradwyo polisi y weinyddaeth cyn y rhyfel, ac yr oedd Harcourt a Morley i raddau yn cymryd yr un safle. Ond condemniodd Mr. Lloyd George y rhyfel ymhob modd, o'r gwraidd i'r brig. Cofiwyd yn hir am ei araith yng Nghaernarfon, i gynulleidfa a oedd, ar y cychwyn, yn oeraidd a beirniadol, os nad yn elyniaethus, pan soniodd am ymdrechion cenhedloedd bychain dros eu