Neidio i'r cynnwys

Tudalen:David Lloyd George (E M Humphreys).djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V.

YN 1902, ar derfyn y rhyfel, yr oedd Mr. Lloyd George yn rhywbeth heblaw aelod Cymreig. Dywedwyd mai Cymru oedd cefndir ei hanes am gyfnod, ond ar ôl rhyfel Deheudir Affrica y mae'r cefndir yn newid. Nid wyf yn bwrw unrhyw amheuaeth ar gariad Mr. Lloyd George at Gymru trwy ddywedyd hyn; ni all neb fod yn ei gymdeithas hyd yn oed am ychydig oriau heb wybod pa mor ddwfn yw ei ddiddordeb yn ei wlad a pha mor eang yw ei wybodaeth amdani. Ond bellach y mae yn raddol yn peidio bod yn arweinydd Cymreig yn yr hen ystyr a throir ei egnion fwy-fwy i gyfeiriadau gwladlywiaeth Brydeinig yn gyffredinol. Nid dyma'r lle i drafod yr hen gwestiwn ai mantais ai colled i Gymru a fu hynny. Erys y ffaith.

Ni ddarfu yn llwyr am y chwiw ymherodraethol gyda gorchfygiad y Boeriaid. Ymhen ychydig fisoedd ar ôl cyhoeddi heddwch ymneilltuodd Salisbury, yr hen Brif Weinidog, a chymerwyd ei le gan Mr. Balfour, ond yr oedd Mr. Chamberlain, gyda'i ynni a'i rym, yn aros o hyd. Nid oes yma le i drafod gyrfa'r weinyddiaeth yn fanwl yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, ond digwyddodd dau beth a baratodd y ffordd i'w dymchweliad ac a hyrwyddodd undeb rhwng gwahanol garfannau y blaid Ryddfrydol. Yn yr un flwyddyn ag y daeth y rhyfel i ben cyflwynodd Mr. Balfour ei Fesur Addysg, ac ychydig yn ddiweddarach dechreuodd Mr. Chamberlain, ar ôl ei ymweliad â Deuheudir Affrica, ei ymgyrch o blaid diffyndollaeth. Arwr y frwydr yn erbyn Diffyndollaeth ac o blaid Masnach Rydd oedd Mr. Asquith. Cymrodd Mr. Lloyd George ei ran ynddi, ond ni wnaeth y marc ar y maes yma a wnaeth mewn meysydd eraill. Ond ef oedd arwr amlycaf y gwrthwynebiad i fesur addysg Balfour.

Amcan y mesur oedd diddymu'r hen fyrddau ysgol a throsglwyddo rheolaeth addysg i awdurdod y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeisiol. Cydnabyddir bellach fod y rhan yna o'r cynllun yn un da a bod y reolaeth newydd yn fwy goleuedig ac yn fwy effeithiol na hen reolaeth y byrddau bychain lleol. Ond mynnodd y weinyddiaeth gymryd cam pellach, ac ynghylch hwnnw y bu'r helynt. Hyd yn hyn nid oedd yr ysgolion gwirfoddol, hynny ydyw,