pethau a wnaeth merched milwriaethus yn ymgyrch y bleidlais. Ond y diwrnod hwnnw nid oedd ond brwdfrydedd yn y Bala, a dechreuodd Mr. Lloyd George ei araith trwy ddywedyd fod y llywodraeth, ar ôl misoedd o neilltuaeth, wedi dyfod allan ac "wedi taro ei throed ar Lawr y Betws." Aeth ymlaen i ddywedyd ei bod wedi meddwl fod Cymru wedi ymgolli gormod yn y diwygiad crefyddol oedd yn ysgubo tros y wlad y pryd hynny i gymryd sylw o'r hyn a wnai hi yng Nghymru. "Ond peth peryglus," meddai, " ydyw codi cenedl oddiar ei gliniau ar ei thraed." Dyma, y mae'n debyg, y tro olaf i Mr. Lloyd George sefyll fel arweinydd ei gyd-genedl yn unig, ac yn yr ymgyrch hwn, hyd yn oed, yr oedd mwy na Chymru yn y fantol. Rhan oedd y frwydr yng Nghymru o'r frwydr oedd yn myned ymlaen yn Lloegr hefyd. Yn raddol tynnid Mr. Lloyd George i gylch gwleidyddiaeth y tu allan i Gymru.
Cydnabyddid hynny gan arweinwyr y pleidiau yn y senedd, ac os oedd Cymru yn sylweddoli fod y peth yn digwydd nid oedd yn gwarafun iddo ddigwydd. Dyfelid, yng Nghymru ac yn Lloegr, beth a fyddai swydd Mr. Lloyd George yn y weinyddiaeth Ryddfrydol nesaf, a'r un oedd y teimlad yng Nghymru wrth feddwl am hynny â phan dderbyniodd Tom Ellis swydd dan Gladstone. Daeth y cyfle yn weddol fuan. Chwalodd Chamberlain ei blaid ei hun ar bwnc y tollau, ac wedi oedi'n nychlyd am hir amser, ymddiswyddodd Mr. Balfour a ffurfiodd Syr Henry Campbell-Bannerman weinyddiaeth Ryddfrydol y gellid ei galw yn weinyddiaeth yr holl dalentau. Nid yn aml y bu Cabinet â chynifer o ddynion enwog a galluog ynddo; nid yn aml, chwaith, y bu gweinyddiaeth â chymaint o ddynion ieuanc a chymharol ieuanc galluog yn ei chefnogi yn y Senedd ac yn y wasg. Yr oedd yn dda gan y wlad gael gwared â'r weinyddiaeth a fu mewn grym ers deng mlynedd a disgwylid am nef newydd a daear newydd gan ei holynydd. Yn etholiad cyffredinol 1906 rhoddwyd mwyafrif i'r Rhyddfrydwyr na welwyd ei debyg erioed o'r blaen. Gorchfygodd Mr. Lloyd George ei wrthwynebydd Toriaidd, Mr. Naylor, Sais o Warrington, gyda 1,224 o bleidleisiau wrth gefn-y mwyafrif mwyaf a gafodd hyd hynny.
Yn yr etholiad hwnnw y dechreuwyd canu cân etholiad ym Mwrdeisdrefi Arfon gyda'r byrdwn,